Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ffigurau newydd yn dangos bod Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweld gostyngiad o 10.6% mewn troseddau treisgar ers 2019, sy’n cyfateb i 466 yn llai o droseddau. Dyma'r drydedd gyfradd ddisgyn gyflymaf ar draws y y DU.
Meddai’r Prif Arolygydd Anthony Moyle, “Mae hyn oherwydd ymrwymiad eithriadol ein gweithlu ac effeithiolrwydd ein strategaethau patrol wrth leihau cyfraddau troseddu yn sylweddol.
Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i gynnal Pen-y-bont ar Ogwr a phob ardal o fewn yr heddlu a chymunedau sy'n ffynnu. Mae’r ffigurau hyn yn sicr yn galonogol a byddant yn cael eu croesawu gan y gymuned leol yn ddi-os.
Gellir priodoli’r gostyngiad mewn troseddau treisgar yn uniongyrchol i ffocws diwyro ein gweithlu ymroddedig, a wnaed yn bosibl drwy batrolau gwell ac wedi’u targedu o’n heconomi canol tref a liw nos.
Yn ogystal, rydym yn falch o gydnabod effaith gadarnhaol y cyllid a gafwyd ar gyfer strydoedd mwy diogel. Yn nodedig, mae ward Morfa yn enghraifft wych o'r gwelliant hwn, gyda gostyngiad rhyfeddol o 43.8% mewn troseddau treisgar, ynghyd â gostyngiadau sylweddol mewn troseddau trefn gyhoeddus a bod ym meddiant cyffuriau.
Rydym am gyfleu neges syml ond dylanwadol: bydd ein hymroddiad diwyro i sicrhau diogelwch cymunedol yn parhau. Bydd ein hymdrechion diflino yn parhau i feithrin amgylcheddau diogel lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus."