Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru, sy’n ymchwilio i anhrefn difrifol a ddigwyddodd yn ardal Trelái, Caerdydd ddydd Llun, 22 Mai wedi arestio rhagor o bobl.
Daeth yr anhrefn yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol yn Snowden Road, Trelái, a gymerodd, yn drasig, fywydau Kyrees Sullivan a Harvey Evans, a oedd yn ddau ffrind agos iawn.
Mae ein meddyliau gyda'u theuluoedd a'u ffrindiau a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad ofnadwy hwn. Mae'r teuluoedd yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt teuluoedd.
Mae 20 o bobl bellach wedi cael eu harestio mewn perthynas â'r anhrefn.
Mae 17 dyn a 3 menyw, rhwng 14 a 36 oed a gafodd eu harestio ar amheuaeth o derfysg wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dywedodd Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes: “Cafodd sawl cerbyd ei roi ar dân, difrodwyd eiddo, anafwyd swyddogion yr heddlu ac roedd trigolion yn ofnus yn eu cartrefi, yn ystod yr anhrefn.
“Fel rhan o'r ymchwiliad hyd yn hyn, mae dros 290 darn o luniau oddi ar wisg corff gan swyddogion heddlu wedi'u casglu, yn ogystal â sawl awr o fideos wedi'u postio ar gyfryngau cymdeithasol, drôn, hofrennydd, a lluniau teledu cylch cyfyng.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am y cymorth gan y gymuned hyd yn hyn ac i aelodau o'r cyhoedd sydd wedi darparu 50 ymateb drwy ddefnyddio'r Porth Cyhoeddus Digwyddiadau Mawr. Disgwylir mwy o arestiadau wrth i ni barhau i nodi'r rhai dan sylw ac rydym dal yn apelio am dystion, gwybodaeth ac am fideos.”
Mae Heddlu De Cymru wedi gwneud atgyfeiriad gorfodol at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu er mwyn sicrhau sicrhau y creffir yn annibynnol ar y mater.
Byddwn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd gennym iddynt, a byddant yn cynnal ymchwiliad annibynnol i'r amgylchiadau a wnaeth arwain at y gwrthdrawiad trasig.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd digidol ar-lein drwy borth cyhoeddus https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B72-PO1