Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau berson wedi’u harestio ac mae mwy nag 20 o gerbydau yn cynnwys 11 o feiciau cwad wedi’u hatafaelu o uned yn Nhrelái, Caerdydd.
Daw hyn yn dilyn apêl am wybodaeth am ddigwyddiad yn ymwneud â grŵp mawr o feiciau a cherbydau eraill yn teithio rhwng y Barri a Chaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf (Mehefin 10).
Roedd rhai o'r unigolion dan sylw yn gyrru mewn modd a oedd yn peryglu defnyddwyr ffyrdd a cherddwyr.
Fel rhan o’n hymchwiliad rhagweithiol i’r digwyddiad hwn, ac yn sgil gwybodaeth gymunedol a gafwyd am feiciau wedi’u dwyn a’r digwyddiad hwn, am 7am fore heddiw (dydd Gwener 16 Mehefin), cynhaliodd swyddogion warant chwilio mewn uned ger Wilson Road, Trelái.
Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drafod nwyddau wedi’u dwyn, gyrru’n ddiofal, a thyfu canabis.
Mae dyn 41 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drafod nwyddau wedi'u ddwyn a thyfu canabis.
Mae'r ymchwiliad yn mynd rhagddo ac mae ymholiadau'n parhau.
Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i gadw’r gymuned yn ddiogel. Mae gan bob defnyddiwr ffyrdd ddyletswydd i gadw at ddeddfwriaeth traffig ffyrdd.
Gall unrhyw un sydd ag unrhyw ddeunydd fideo o gamera teledu cylch cyfyng, ffôn symudol neu gamera dashfwrdd a fydd yn helpu ein hymchwiliad i droseddau moduro a gyflawnwyd yn ystod y digwyddiad, gyflwyno'r deunydd hwnnw ar-lein drwy borth cyhoeddus: