Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am ddeunydd fideo o ddigwyddiad cyhoeddus yn cynnwys â beiciau a cherbydau eraill yn Y Barri a Chaerdydd.
Cynhaliwyd digwyddiad cyhoeddus heddiw (dydd Sadwrn 10 Mehefin) a oedd yn cynnwys nifer mawr o feiciau a modurwyr eraill a oedd am dalu teyrnged i ddau aelod o gymuned Trelái.
Symudodd y digwyddiad rhwng Trelái a'r Barri cyn dychwelyd i Gaerdydd.
Gwnaeth rhai o'r unigolion a gymerodd ran yn y digwyddiad yrru mewn ffordd a oedd yn peri risg i ddefnyddwyr ffyrdd eraill a cherddwyr.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Mark Travis: “Rydym yn deall yn llawn fod pobl am dalu teyrnged, ond dylid gwneud hyn mewn ffordd heddychlon heb darfu ar yr ardal.
“Ein blaenoriaeth yw cadw pobl a busnesau yn y gymuned yn ddiogel, ac roedd gennym ymgyrch yr heddlu ar waith er mwyn gwneud hyn.
“Mae gan bob defnyddiwr ffyrdd ddyletswydd i ufuddhau i ddeddfwriaeth traffig ffyrdd. Bydd ein hymateb i'r digwyddiad heddiw yn gymesur, a bydd yn cynnwys delio â throseddau yn ôl-weithredol drwy ddefnyddio tystiolaeth a gasglwyd gan swyddogion, dronau, hofrennydd yr heddlu, ac aelodau o'r cyhoedd.
“Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd yn ystod prynhawn pryderus iawn. Er gwaethaf yr achosion o yrru'n beryglus iawn yn ein cymunedau, ni roddwyd gwbod am unrhyw anafiadau na gwrthdrawiadau."
Gall unrhyw un sydd ag unrhyw ddeunydd fideo o gamera teledu cylch cyfyng, ffôn symudol neu gamera dashfwrdd a fydd yn ein helpu i ymchwilio i droseddau moduro a gyflawnwyd yn ystod y digwyddiad heddiw, ei gyflwyno ar-lein drwy borth gyhoeddus:
https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B72-PO2
Fel arall, gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2300189926.
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📞 101