Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Jeremy Evans, 52 oed, wedi cael ei garcharu am bum mlynedd am ymosodiad rhywiol.
Ymosododd Evans ar fenyw ym mis Mawrth 2021 ar ôl gwneud sylwadau rhywiol amhriodol tuag ati. Dywedodd y barnwr mai ymgais i feithrin perthynas amhriodol â hi oedd yr ymddygiad hwn i bob pwrpas.
Arhosodd Evans iddi fod ar ei phen ei hun, yn feddw ac mewn cyflwr bregus cyn ymosod arni'n rhywiol.
Rhoddodd y dioddefwr wybod i'r heddlu am y digwyddiad y diwrnod canlynol, a chafodd Evans ei arestio.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Joanne Holden, “Dangosodd ein hymchwiliad fod Evans wedi ceisio cuddio tystiolaeth fforensig drwy eillio ei farf y diwrnod canlynol a golchi ei ddillad, a oedd yn hollol groes i'w gymeriad. Tystiolaeth fforensig a oedd yn cysylltu Evans â dillad isaf y dioddefwr a gyfrannodd yn gryf at ei euogfarn.”
Hoffwn ddiolch i'r dioddefwr am ei dewrder drwy roi gwybod am yr ymosodiad ac am ei chymorth gyda'r ymchwiliad hwn.
Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin yn rhywiol i roi gwybod i'w heddlu lleol drwy ffonio 101. Byddwn bob amser yn ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth, ni waeth pryd y gwnaethant ddigwydd. Gall dioddefwyr siarad yn gyfrinachol ag ymchwilwyr profiadol a gallwn hefyd eu helpu i gael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth eraill.”