Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Caleb Courtman, unigolyn sy'n meithrin perthnasoedd amhriodol gyda phlant ar-lein wedi cael ei garcharu am 24 mlynedd yn dilyn ymchwiliad gan Dîm Ymchwiliadau Ar-lein Heddlu De Cymru (POLIT).
Darganfu swyddogion POLIT fod gan Caleb Courtman, 20 oed, o Abertawe dros 2000 o luniau a fideos anweddus o blant ar ei ddyfeisiau, gyda rhywfaint ohonynt wedi eu casglu'n uniongyrchol gan y plant y gwnaeth feithrin perthynas amhriodol â nhw a'u hannog i wneud ar-lein.
Arestiwyd Courtman gan y ditectifs dan arweiniad DC Natalie Revers, ar ôl i gudd-wybodaeth ddod i law a nododd fod deunydd anghyfreithlon wedi cael ei lanlwytho o'i gyfeiriad cartref.
Datgelodd ymchwiliad cymhleth ar y cyd gan dîm POLIT a'r Archwilwyr Fforensig Digidol y bu Courtman yn cyfathrebu â channoedd o blant mor ifanc â naw oed dros lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, ble roedd wedi eu hannog, yn aml drwy ddefnyddio bygythiadau a blacmel, i gyflawni gweithredoedd rhywiol.
Pan archwiliwyd ei hanes o ddefnydd ar y rhyngrwyd, darganfu'r heddlu, nid yn unig iddo fod yn chwilio am ddeunydd llosgach a thrais rhywiol, ond hefyd wedi bod yn chwilio am wybodaeth am swyddi gwarchod plant yn lleol ac wedi ymweld â thudalennau Facebook ysgolion ardal Abertawe. Darganfu swyddogion hefyd sgyrsiau am dreisio rhywiol roedd Courtman wedi cymryd rhan ynddynt gyda chyd-bedoffilyddion.
Roedd mewn cyswllt â channoedd o blant ar draws y DU, gyda rhywfaint ohonynt na elli fyth eu hadnabod. Fodd bynnag, diolch i waith caled yr ymchwilwyr, mae dros 142 o blant wedi cael eu hadnabod a'u diogelu. Mae'r gwaith yn parhau i adnabod a diogelu'r holl blant y cysylltodd Courtman â nhw
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Natalie Revers:
"Bu hwn yn ymchwiliad ysgytwol ac annifyr, a hoffwn ddiolch i'r teuluoedd a'r plant sydd wedi cefnogi ymchwiliad yr heddlu a chanmol eu dewrder wrth siarad allan. Hoffwn hefyd ddiolch i eraill sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad ehangach am eu gwaith caled a'u cymorth dros y saith mis diwethaf, ac am eu cefnogaeth barhaus.
"Rydym yn annog unrhyw un sy'n credu eu bod wedi dioddef camdriniaeth rywiol ar lein i roi gwybod i'r heddlu. Byddant yn cael eu trin ag urddas a thosturi gan ein swyddogion a'r gwasanaethau cymorth rydym yn gweithio'n agos gyda nhw."
Ddydd Gwener, Medi 8, yn Llys y Goron Abertawe, cafodd Courtman ei ddedfrydu i 24 mlynedd estynedig yn y carchar. Cafodd hefyd ei wneud yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol, ac mae wedi cael ei ychwanegu at y Gofrestr Troseddwyr Rhyw.