Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r lleidr cyson, Ben Sullivan, o Gaerdydd, wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd am gyfres o droseddau.
Cafodd Sullivan, 30 oed, ei arestio a'i gyhuddo y llynedd o gyfres o fwrgleriaethau o gartrefi a lleoliadau masnachol yng Ngogledd Caerdydd rhwng Rhagfyr 2021 ac Ebrill 2022, ac mae wedi cael dedfryd o chwe blynedd yn y carchar am hynny.
Parhaodd ditectifs i ymchwilio iddo am ei ran mewn bwrgleriaethau eraill a gwnaethant ddod o hyd i dystiolaeth teledu cylch cyfyng a fforensig yn ei gysylltu â digwyddiadau pellach, gan gynnwys lladrata o eiddo unigolyn 96 oed yng Nghyncoed.
Yn dilyn hyn, cafodd ei gyhuddo ym mis Mehefin 2023 o fwrgleriaeth waethygedig, 12 bwrgleriaeth a dwyn car. Cafodd ddedfryd o wyth mlynedd o garchar am y troseddau hyn.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl, Kate Perchard:
“Mae Ben Sullivan yn droseddwr mynych a pheryglus ac mae wedi cael ei garcharu am 14 o droseddau bwrgleriaeth pellach. Gobeithio y bydd y ddedfryd hirfaith hon yn rhoi cysur i'r cyhoedd bod Heddlu De Cymru yn cymryd adroddiadau am fwrgleriaeth, ar y cyd ag effaith y fath droseddau ar ddioddefwyr, o ddifrif.
"Cyflawnodd Sullivan gyfres o fwrgleriaethau gan adael effaith barhaol ar y dioddefwyr a hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth a'u hamynedd gyda'r ymchwiliad.”
Plediodd Sullivan yn euog i'r holl droseddau.