Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae mwy na 6,000 o swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn rhan o Dîm HDC. Mae gan bob un ohonom nodweddion, cefndiroedd, safbwyntiau a phrofiadau unigryw.
Mae cymunedau De Cymru yn amrywiol ac mae ganddynt wahanol anghenion. Drwy fod yn weithlu mor amrywiol â phosibl, gallwn wneud yn siŵr ein bod yn y sefyllfa orau i ddeall ac ymateb i'w hanghenion yn effeithiol.
Cynhelir Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol o ddydd Llun 25 Medi i ddydd Sul 1 Hydref ac mae'n rhoi cyfle i ni dynnu sylw at y gwaith rydym yn ei wneud i sicrhau bod Heddlu De Cymru yn gyflogwr amrywiol a chynhwysol.
Dywedodd Mark Stevenson, y Prif Swyddog Pobl: “Rydym yn byw mewn cymdeithas amrywiol. Er mwyn cefnogi a meithrin ymddiriedaeth pob un o'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein swyddogion, ein staff a'n gwirfoddolwyr yn adlewyrchu ein cymunedau.
Rydym yn mynd ar ôl troseddwyr, yn amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed ac yn blaenoriaethu dioddefwyr. Dim ond drwy gynrychioli ein cymunedau a galluogi cydweithwyr i fod y gorau y gallant fod yn y gwaith y mae hyn yn bosibl. Dyma pam y mae Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol yn bwysig i mi a Thîm HDC.
Yn ogystal â rhoi pwyslais penodol ar ddenu a recriwtio cydweithwyr o grwpiau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, mae cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ein gweithlu hefyd yn ymrwymo i ddatblygu diwylliant o gynhwysiant trwy ddysgu, polisïau cefnogol, a disgwyliadau arweinyddiaeth clir. Rydym hefyd yn falch o'r buddsoddiad a'r cymorth sydd gennym ar waith ar gyfer cydweithwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i feithrin eu sgiliau ac i'w helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfa yn yr heddlu.
Mae ein timau Gweithredu Cadarnhaol, ac Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cynnig cymorth i aelodau presennol a darpar aelodau #TîmHDC, gan sicrhau bod yr un cyfleoedd ar gael i bawb.
Dim ond trwy'r gefnogaeth barhaus a gawn gan ein rhwydweithiau staff sy'n parhau i helpu i adolygu a datblygu ein dull gweithredu ac yn cefnogi ein cydweithwyr yn y gwaith y gellir cydnabod ein hymrwymiad a'n cymhelliant i fod yn weithlu mwy cynhwysol ac amrywiol. Caiff eu gwaith a'u hymrwymiad parhaus eu gwerthfawrogi'n fawr a hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad.”
Mae'r rhwydweithiau yn cynnwys:
Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu (CPA)
Diben Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu yw bod yn llais cenedlaethol i Gristnogion ym maes plismona, ac annog a chefnogi Cristnogion sy'n rhan o'r teulu plismona. Yn ogystal â darparu rhwydwaith a chymorth i Gristnogion yn Heddlu De Cymru, rydym hefyd yn gobeithio adeiladu pontydd rhwng y gymuned Gristnogol a'r Heddlu.
Rhwydwaith Cymorth Anabledd (DSN)
Mae'r Rhwydwaith Cymorth Anabledd yn rhwydwaith cefnogol o gydweithwyr yn yr heddlu sydd ag anabledd neu sy'n byw drwy anabledd.
Mae'r Rhwydwaith Cymorth Anabledd yn sicrhau bod Heddlu De Cymru yn darparu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle gall staff ffynnu. Yn ogystal, mae'r Rhwydwaith Cymorth Anabledd yn dylanwadu ar bolisïau a all effeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ar staff anabl, gan sicrhau bod y gweithle yn lle cynhwysol lle gall aelodau anabl o staff fod yn gynhyrchiol a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a chanolbwyntio mwy ar alluoedd yn hytrach nag anableddau.
Rhwydwaith Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau (GEN)
Mae'r Rhwydwaith Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yn rhwydwaith cefnogol o gydweithwyr o bob rhan o'r heddlu sy'n gweithio gyda'i gilydd i annog Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau gwell yn y gweithle.
Fel rhwydwaith, ein nod yw sicrhau bod Heddlu De Cymru yn darparu amgylchedd gwaith cadarnhaol ar gyfer pob rhyw drwy annog cynrychiolaeth deg ar bob rheng ac ym mhob rôl. Rydym hefyd yn gweithio gyda Phrif Swyddogion ac Uwch-arweinwyr i ddylanwadu'n gadarnhaol ar ddatblygiad polisïau ac annog cyfle cyfartal i weithwyr benywaidd er mwyn sicrhau y gallant wireddu eu potensial i'r eithaf a ffynnu.
Rhwydwaith Cymorth i Staff Niwroamrywiaeth (ND SSN)
Cafodd y rhwydwaith ei sefydlu i godi ymwybyddiaeth o Nioamrywiaeth er mwyn rhoi cymorth i gydweithwyr Niwroamrywiol a chydweithwyr sy'n gofalu am bobl â chyflyrau Niwroamrywiol, yn ogystal â chydweithwyr a hoffai ymgysylltu â'r Rhwydwaith fel cynghreiriaid. Anogir holl staff HDC sydd â diddordeb mewn Niwroamrywiaeth i ymuno â'r Rhwydwaith er mwyn cael mynediad at gymorth, cyngor a chyfleoedd dysgu.
Cymdeithas Heddlu Mwslimaidd De Cymru (SWAMP)
Mae Cymdeithas Heddlu Mwslimaidd De Cymru wedi’i ffurfio er mwyn cynnig rhwydwaith cymorth i’n cydweithwyr Mwslimaidd ledled Heddlu De Cymru a’r heddluoedd cyfagos, yn ogystal â’r rhai sy’n awyddus i ymuno â’r Gwasanaeth, o gymunedau Mwslimaidd. Mae Cymdeithas Heddlu Mwslimaidd De Cymru hefyd yn anelu at gefnogi’r Gwasanaeth i gyflawni ei weledigaeth, sef ‘Bod y gorau am ddeall anghenion ein cymunedau ac ymateb iddynt’, drwy weithio gyda Phrif swyddogion, Uwch-arweinwyr ac asiantaethau partner allanol.
Cymdeithas Heddlu Du De Cymru (SWBPA)
Mae Cymdeithas Heddlu Du De Cymru yn ceisio gwella amgylchedd gwaith staff B.A.M.E yn Ne Cymru drwy wella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i'w cymunedau amrywiol. Drwy ddarparu rhwydwaith cymorth ar gyfer pob aelod o staff B.A.M.E, ac ymdrechu i wella cydberthnasau rhwng yr heddlu a chymunedau B.A.M.E, bydd y gymdeithas yn chwarae rôl gadarnhaol drwy gefnogi aelodau o staff a phob cymuned yn Ne Cymru.
Rhwydwaith Heddlu LGBT+ Cymru – Cangen De Cymru
Mae Cangen Heddlu De Cymru o Rwydwaith Heddlu LGBT+ Cymru yn cynnig cefnogaeth i weithwyr Heddlu De Cymru.
Gan gydweithio gyda gwasanaethau Heddlu Dyfed Powys, Gogledd Cymru a Gwent gall Rhwydwaith Heddlu LGBT+ Cymru greu a rhannu arfer gorau, hyfforddiant a chyfleoedd digwyddiadau ledled y wlad yn ogystal â herio sefydliadau ledled Cymru a'r DU i wella profiadau pobl LGBT+, gyda'i gilydd.
Menywod o Liw Mewn Plismona (WoCiP)
Nod y rhwydwaith Menywod o Liw Mewn Plismona yw ymgysylltu, herio, datblygu mentrau a blaenoriaethu'n weithredol, ag uchelgais i greu newid yn niwylliant plismona. Mae'n gweithio tuag at feithrin dealltwriaeth ddiwylliannol ehangach, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o'r rhwystrau y mae menywod o liw yn eu hwynebu gan gymunedau mewnol ac allanol yn sgil diwylliant a all effeithio ar drefniadau denu, recriwtio, datblygu a chadw.
Mae hefyd yn mynd i'r afael ag agweddau, ymddygiadau annerbyniol a phrosesau adnabod sy'n rhoi Menywod o Liw Mewn Plismona dan anfantais. Bydd yr elfen hon o'r waith yn rhoi arweinyddiaeth, gweledigaeth a threfniadau cydlynu i lywio gweithgarwch cyfartal, cynhwysol a diwylliannol mewn sefydliadau plismona i wella canlyniadau cadarnhaol ar gyfer menywod o liw mewn plismona.