Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Daniel Gerrard wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar am ymosodiad direswm ym Merthyr Tudful.
Ym mis Mai 2022, pan oedd allan gyda'i ffrindiau yn nhafarn y Vulcan, cyhuddodd Gerrard ddyn o ymosod yn rhywiol ar ei bartner a thaflodd ef i'r llawr yn ffyrnig. Dangosodd deunydd Teledu Cylch Cyfyng nad dyna ddigwyddodd, a bod y dyn anhysbys yn syml wedi bod yn dawnsio yn yr un ardal a'i gariad, a bod gan Gerrard broblem â hyn.
Aeth y staff drws at Gerrard, a dywedwyd wrtho am adael. Arhosodd Gerrard a'i ffrind Jason Cox y tu allan i'r dafarn nes i ail ddyn adael, ac aeth Gerrard ato a rhoi ergyd caled i'w ben ar ôl ffrae ar lafar. Mewn cyfweliad, honnodd Gerrard ei fod wedi taro'r dioddefwr fel hunanamddiffyniad.
Sawl eiliad yn ddiweddarach, cafodd yr ail ddioddefwr ei gicio yn ei ben ddwywaith gan Jason Cox, 40 oed. Erbyn hyn, roedd nifer o bobl a oedd yn bresennol yn dangos eu hanfodlonrwydd â'r ffaith ei fod yn cicio'r dyn a oedd yn amlwg yn ddiamddiffyn ar y llawr.
Dechreuodd Gerrard ddadlau â'r bobl a oedd yn bresennol, a tharodd drydydd dyn o'r tu ôl gan achosi iddo gwympo i'r llawr lle yr arhosodd yn anymwybodol ac yn llonydd. Nododd Gerrard eto ei fod wedi gweithredu er mwyn amddiffyn ei hun a'i bartner a'i ffrind Cox.
Aeth pedwerydd dyn ati i helpu'r dyn ar y llawr gan gredu ei fod wedi marw am ei fod yn llonydd ac am fod ei groen yn troi'n biws, a dechreuodd Gerrard ymosod yn ffyrnig a direswm ar y gwyliwr hwn, drwy ei daro ar ei ben deirgwaith.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Michael Snare, "Dangosodd ein hymchwil drylwyr nad oedd Gerrard wedi gweithredu mewn hunanamddiffyniad ar unrhyw adeg. Ni wnaeth yr un o'r pedwar dyn yr ymosododd Gerrard yn ffyrnig arnynt, ddangos unrhyw arwydd o fygythiad ato ar y pryd. Achosodd Gerrard niwed sylweddol i'r gwylwyr diniwed hyn.”
Cafodd y trydydd dioddefwr anafiadau sylweddol, a bu'n rhaid iddo gael triniaeth achub bywyd oherwydd gwaedlif i'w ymennydd. Roedd gan y dioddefwr arall lwmp ar ochr ei ben, a chafodd y dioddefwr cyntaf bwythau yn ei lygaid, roedd ei drwyn wedi'i dorri ac roedd ei wyneb wedi cleisio a chwyddo.”
Cafodd Gerrard o'r Gurnos ei ddedfrydu i gyfanswm o bedair blynedd yn y carchar, gyda thrwydded estynedig o un flwyddyn. A chafodd Jason Cox ddedfryd ohiriedig o 12 mis.