Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Lewis Sawdon, 30 oed, a Ffion Evans, 24 oed, o Faesteg wedi cael eu carcharu am feddu ar gyffuriau dosbarth A gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Gweithredodd swyddogion warant yn eu cartref ym mis Ionawr 2021 yn dilyn pryderon a godwyd gan y gymuned leol. Cafodd Sawdon ac Evans eu canfod gyda chocên â gwerth stryd o £3,590, a gwerth £2,000 o heroin. Daeth y swyddogion o hyd i glorian gyda gweddillion cyffuriau arni hefyd, a gwerth £580 o arian parod.
Cafodd y pâr eu stopio gan swyddogion unwaith eto ym mis Ebrill 2021, pan gawsant eu gweld yn ymddwyn yn amheus ym Maesteg.
Pan arestiwyd y ddau, roedd ganddynt heroin, arian parod a ffôn symudol. Cynhaliwyd chwiliad pellach yn eu cartref ble darganfuwyd heroin â gwerth stryd o £400 yn ogystal â chlorian a £1100 o arian parod.
Plediodd Sawdon ac Evans yn euog a chawsant eu dedfrydu yr wythnos diwethaf yn Llys y Goron Caerdydd. Cafodd Sawdon ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar a bydd Evans yn treulio cyfanswm o 25 mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Richard Lea, “Roedd hwn yn ymchwiliad estynedig a hir iawn i gyflenwi cyffuriau ar Ystad Tudor, mewn ymateb i'r pryderon a godwyd gan y gymuned leol.
Perodd gweithredoedd Sawdon ac Evans gryn bryder i aelodau'r gymuned leol, a bydd y dedfrydau hir yn y carchar y mae'r ddau wedi'u cael yn tawelu eu meddyliau heb os.
Os hoffech roi gwybod i'r Heddlu am unrhyw beth sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn anghyfreithlon, gallwch wneud hynny yn ddienw drwy gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555111."