Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn annog busnesau i adolygu eu systemau diogelwch a'i gwneud hi'n glir nad oes unrhyw arian parod ar y safle dros nos.
Y mis hwn, mae rhywrai wedi ceisio torri i mewn neu wedi torri i mewn i 11 o fusnesau ym Mhenarth a'r Barri. Mae busnesau annibynnol bach ynghyd â safleoedd mwy o faint wedi cael eu targedu.
Themâu cyffredin y bwrgleriaethau diweddar:
• Wedi eu cyflawni dros nos.
• Mynediad drwy dorri drysau neu ffenestri.
• Arian parod wedi'i ddwyn o'r tiliau.
Fel rhan o ymateb yr heddlu, mae ditectifs yn adolygu'r cyfleoedd fforensig, yn siarad â llygad-dystion ac yn gwylio deunydd teledu cylch cyfyng, i adnabod ac arestio'r rheini sy'n gyfrifol.
Dywedodd Abi Biddle, Arolygydd Plismona Lleol Penarth: "Mae bwrgleriaeth, boed yn eich cartref, eich busnes, neu lle rydych yn gweithio yn brofiad trawmatig ac rydym yn gweithio'n galed i roi terfyn ar y cynnydd diweddar mewn bwrgleriaethau masnachol.
"Rydym yn credu bod un neu ddau grŵp o bobl yn gyfrifol oherwydd y tebygrwydd yn y troseddau.
"Gofynnwn i fusnesau adolygu eu systemau diogelwch a'i gwneud hi'n glir hefyd nad oes unrhyw arian parod ar y safle dros nos"
Digwyddodd y bwrgleriaethau mwyaf diweddar yn ystod oriau mân y bore hwn (dydd Mercher, Medi 20) yn Terra Nova Way, Penarth a thair dros nos yn y Barri ar Heol Holton, Heol Stirling a Pharc Manwerthu'r Glannau.
Mae un dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r fwrgleriaeth neithiwr ym Mhenarth.
Ychwanegodd yr Arolygydd Biddle: "Gofynnwn i bobl fod yn wyliadwrus o unrhyw un a welant yn loetran o amgylch safleoedd busnesau neu fanwerthu yn ystod oriau mân y bore.
"Os gwelwch unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, ffoniwch yr heddlu yn syth ar 999."
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y rhai sy'n cyflawni'r bwrgleriaethau hyn, gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol:
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bostio [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.