Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae mwy na 50 o ddelwyr cyffuriau wedi cael eu harestio ac yn bwrw dedfrydau o garchar â chyfanswm o fwy na 165 o flynyddoedd, fel rhan o Ymgyrch Talon – ymgyrch fawr i atal y cyflenwad o gyffuriau Dosbarth A yng Nghaerdydd.
Yn ystod ymgyrch gudd wyth mis o hyd, aeth swyddogion cudd allan ar strydoedd Adamsdown, Butetown, Cathays, Treganna, Grangetown, y Sblot a chanol y ddinas mewn ymateb i bryderon am achosion amlwg o gyflenwi cyffuriau.
Cafodd hyd at 300 o gyflenwadau cyffuriau eu hatafaelu, ynghyd â £53k mewn arian parod, 125 o ffonau symudol, ac amrywiaeth o arfau.
Dedfrydwyd tri dyn ddoe (dydd Iau, 21 Medi) yn Llys y Goron Caerdydd, sy'n golygu bod cyfanswm o 58 o unigolion wedi'u heuogfarnu, i ddedfryd gyfunol o 165.5 o flynyddoedd yn y carchar.
Honnodd Omer Mohamed, 22 oed, a'i frawd Yaser Mohamed, 20, o Grangetown, eu bod yn ddioddefwyr caethwasiaeth fodern a'u bod wedi cael eu gorfodi i gyflenwi cyffuriau o amgylch Caerdydd.
Ond ar ôl achos llys a barodd bythefnos, fe'u cafwyd yn euog o droseddau cyffuriau.
Cafodd Omer Mohamed ei euogfarnu o saith trosedd, gan gynnwys cynllwynio i gyflenwi heroin a chrac cocên. Cafodd ei garcharu am 7 mlynedd a 6 mis.
Cafodd Yaser Mohamed ei euogfarnu o bedair trosedd, gan gynnwys cynllwynio i gyflenwi heroin a chrac cocên. Cafodd ei garcharu am 5 mlynedd a 6 mis.
Plediodd trydydd dyn, Imon Jalil, 21 oed, o Lan yr Afon, yn euog i gynllwynio i gyflenwi heroin a chrac cocên. Cafodd ddedfryd ohiriedig o 20 mis.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd, Grant Wilson, a arweiniodd yr ymgyrch ar gyfer Heddlu De Cymru:
“Cafodd Ymgyrch Talon ei lansio mewn ymateb uniongyrchol i bryderon a godwyd gan y gymuned ynghylch achosion amlwg o werthu cyffuriau yn ddyddiol a oedd yn effeithio ar ansawdd eu bywyd.
“Cafodd swyddogion cudd eu hanfon i ardaloedd megis canol y ddinas, Butetown a Grangetown, lle gwelwyd bod marchnad gwerthu cyffuriau agored.
“Roedd yr adborth gan y gymuned leol ar ôl yr ymgyrch yn ardderchog. Aeth un aelod o'r cyhoedd at swyddog cymorth cymunedol yr heddlu ar y stryd i ddweud bod Butetown wedi cael ei thrawsnewid yn llwyr.
“Nid ydym yn naïf; gwyddom fod cyffuriau yn cael eu gwerthu o hyd, ond mae'r ymgyrch hon wedi cael effaith sylweddol ar yr achosion amlwg o werthu cyffuriau roedd cymunedau yn eu disgrifio i ni.”
Cafodd swyddogion cudd eu defnyddio rhwng mis Awst 2019 a mis Mawrth 2020, wrth i bandemig COVID-19 ddechrau, ac aed ati i arestio unigolion ym mis Gorffennaf 2020.
Ers hynny, mae unigolion wedi bod yn ymddangos gerbron y llys. Omer Mohamed, Yaser Mohamed, ac Imon Jalil yw'r diffynyddion olaf i'w dedfrydu fel rhan o Ymgyrch Talon.
Ychwanegodd DI Wilson: “Mae'r canlyniadau yn y llys o ganlyniad i ymroddiad pob swyddog a oedd yn rhan o Ymgyrch Talon, ond nid dyna yw'r diwedd.
“Nid digwyddiad untro yw hwn – mae adnabod, atal ac arestio gwerthwyr cyffuriau sy'n gweithredu yn ein cymunedau lleol yn parhau i fod yn flaenoriaeth feunyddiol i ni.”
“Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.”
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o ddelio mewn cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bostio [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.