Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 72 oed a gafodd ei gludo i'r ysbyty yn dilyn ymosodiad ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, ddydd Mawrth 29 Awst, wedi marw.
Mae wedi'i enwi fel Gavin Weekes o Bencoed.
Dywedodd teulu Mr Weekes mewn datganiad: “Fel teulu, rydym wedi cael ein llorio. Hoffem ddiolch i deulu a ffrindiau am eu holl gefnogaeth a negeseuon caredig ar yr adeg hon”.
Mae ditectifs yn parhau i ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd yn The Chatterton Arms, Pencoed, am oddeutu 8:30pm nos Fawrth 29 Awst, wrth i'w deulu gael ei gefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae dyn 29 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac ar fechnïaeth yr heddlu wrth i ymchwiliadau fynd rhagddynt.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru: "Hoffwn gydymdeimlo â theulu Mr Weekes ar yr adeg drist iawn hon.
"Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un a oedd yn y Chatterton Arms ar adeg y digwyddiad ac sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth i'n hymholiadau, i gysylltu â'r heddlu."
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300291285.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.