Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cefnogwr pêl-droed wedi derbyn Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed yn dilyn digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Cafodd Alexander Wilkinson o Birchgrove yn Abertawe, ei arestio am drosedd trefn gyhoeddus yn y gêm rhwng Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe y tymor diwethaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Trwy gydol y gêm, cafodd yr unigolyn 41 oed ei weld yn symbylu, cam-drin yn eiriol, a gwneud arwyddion tuag at gefnogwyr y gwrthwynebwyr.
Hefyd, ceisiodd Wilkinson, a fu'n destun Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed tair blynedd yn y gorffennol, ganfod ei ffordd drwy'r llinell wahanu rhwng y cefnogwyr cartref a'r ymwelwyr.
Ar 5 Medi, ymddangosodd yn Llys Ynadon Caerdydd a phledio'n euog i Drosedd Trefn Gyhoeddus Adran 5 a derbyn Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed am bum mlynedd.
Fel rhan o'r drefn, ni chaiff Wilkinson fynd i mewn i unrhyw safle at ddiben gwylio unrhyw gêm bêl-droed yn y Deyrnas Unedig, sy'n cael ei rheoleiddio at ddibenion Deddf Gwylwyr Pêl-droed 1989.
Pan fydd gemau pêl-droed yn cael eu chwarae y tu allan i’r Deyrnas Unedig, bydd rhaid iddo roi gwybod i orsaf heddlu benodol ac ildio ei basbort.
Mae hefyd wedi cael ei wahardd rhag mynd i unrhyw dref neu ddinas ble fydd Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe neu dîm Cymru yn chwarae.
Dywedodd PC Christian Evans o Heddlu De Cymru: "Mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n mynychu Stadiwm Dinas Caerdydd yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn mwynhau profiad diogel.
Ond pryd bynnag y bydd tystiolaeth o anhrefn sy'n gysylltiedig â phêl droed, rydym bob amser yn mynd ar ôl y rheini sy'n gyfrifol er mwyn sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd.
Gobeithio y bydd canlyniadau'r llys hwn yn anfon neges glir na chaiff ymddygiad o'r fath ei oddef yn Stadiwm Dinas Caerdydd."