Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ysgrifennodd Peter Clive Tucker, o Aberdâr, sylw hiliol ar fideo a bostiwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y gêm rhwng Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe ar 2 Ebrill 2022.
Mae cefnogwr tîm Dinas Caerdydd a ysgrifennodd sylw hiliol am un o chwaraewyr y tîm arall wedi cael ei wahardd rhag mynd i gemau pêl-droed.
Ysgrifennodd Peter Clive Tucker sylw hiliol ar fideo a bostiwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y gêm rhwng Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe ar 2 Ebrill 2022.
Gwnaeth y dyn 57 oed o Aberdâr, sy'n postio ar-lein o dan yr enw ‘Luigi Sanchez’, y sylw am Michael Obafemi a oedd yn chwarae i dîm Dinas Abertawe ar y pryd.
Cafwyd nifer o gwynion am y fideo ac yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru, cafodd Tucker gais drwy'r post i ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd.
Plediodd yn euog i achos o gyfathrebu maleisus hiliol ac ymddangosodd gerbron y llys unwaith eto ddydd Iau, 21 Medi, i gael ei ddedfrydu.
Cafodd Tucker ddedfryd o 10 wythnos yn y carchar wedi'i ohirio am 18 mis a Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed am bum mlynedd.
Bydd yn rhaid iddo hefyd gwblhau 25 diwrnod o weithgarwch adsefydlu a thalu gwerth £359 o ddirwyon a chostau.
Dywedodd Swyddog Pêl-droed Dynodedig Dinas Caerdydd, PC Simon Chivers o Heddlu De Cymru: “Rydym yn trin pob cyhuddiad o drosedd casineb o ddifrif.
“Gallwn ymchwilio i droseddau a gyflawnir ar-lein, gan gynnwys achosion o gyfathrebu maleisus ac unrhyw ymddygiadau amhriodol, a byddwn yn gwneud hynny.
“Mae'r achos hwn yn dangos nad oes unrhyw le i hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath mewn cymdeithas nac ym myd pêl-droed.
“Mae gan Heddlu De Cymru swyddogion cyswllt pêl-droed dynodedig sy'n parhau i weithio gyda chlybiau ym mhob rhan o ardal yr heddlu, gan gynnwys Dinas Caerdydd, i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb.”
Mae wynebu troseddau casineb yn her i bawb yn Ne Cymru – nid dim ond i'r heddlu – ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i herio rhagfarn.
Dywedodd llefarydd o Gymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol: “P'un a yw'n digwydd yn y stadiwm neu ar-lein, mae hiliaeth neu wahaniaethu o unrhyw fath yn cael effaith ar unigolion ac mae angen dwyn cyflawnwyr i gyfrif.
“Mae canlyniadau fel yr un dan sylw yn hanfodol i gyfleu neges glir i'r rheini a fydd nawr yn meddwl ddwywaith cyn defnyddio iaith wahaniaethol – ni chaiff ei goddef.
“Mae hefyd yn bwysig i ni, fel undeb y chwaraewyr, allu dangos enghreifftiau fel yr un dan sylw i'n haelodau wrth i ni eu hannog i roi gwybod am achosion o gam-drin ac i fynd ar drywydd yr achosion hyn drwy sianeli cyfreithiol.
“Nid yw hynny'n benderfyniad hawdd i unigolyn ei wneud bob amser, ac mae angen iddo wybod y bydd yn cael ei gefnogi i geisio canlyniad o'r fath.”
Os byddwch yn dyst i drosedd casineb neu'n dioddef trosedd o'r fath, cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o’r ffyrdd canlynol.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.