Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Katrina Mahoney, 34 oed, wedi cael ei charcharu am achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal, wedi meddwi, wedi iddi daro Ron Fealey, 82 oed, ar Noswyl Nadolig y llynedd.
Gyrrodd Mahoney ei cherbyd ar hyd Avenue de Clichy ar 40mya mewn parth 20mya ac roedd wedi yfed ddwywaith y terfyn cyfreithlon, pan darodd y dioddefwr, Mr Fealey, a oedd yn croesi'r ffordd ar y groesfan. Methodd â stopio yn y fan a'r lle i gynnig cymorth i Mr Fealey.
Gyrrodd i ffwrdd â'r ffenestr flaen wedi chwalu a gadael i'r rhai a oedd yn bresennol i helpu Mr Fealey a darparu gofal brys.
Yn drist iawn bu Mr Fealey farw o'i anafiadau ddeuddydd yn ddiweddarach ar ŵyl San Steffan yn ysbyty o ganlyniad i anaf trawmatig i'r ymennydd.
Dychwelodd Mahoney i'r fan a'r lle 10 munud yn ddiweddarach wedi iddi adael ei mab a oedd yn teithio gyda hi yn y car ar adeg y gwrthdrawiad.
Y dioddefwr Ron Fealey a fu farw ar ŵyl San Steffan 2022
Dywedodd y rhingyll Debbie Hobrough:
“Roedd Ron Fealey yn aelod annwyl a phoblogaidd o'r gymuned yn ardal Merthyr, a bydd ei deulu a'r gymuned ehangach yn gweld ei eisiau'n fawr. Roedd hwn yn brofiad trawmatig i'r teulu yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.Bydd Mrs Mahoney yn cael dedfryd o garchar am ei gweithredoedd diofal a'r diffyg gofal a roddwyd i'r dioddefwr yn syth ar ôl y gwrthdrawiad. Bydd y ddedfryd yn cynnig rhywfaint o gysur i'r teulu, er na fydd byth yn llenwi'r bwlch a adawyd yn dilyn ei farwolaeth sydyn."
Talodd teulu Mr Fealey y deyrnged ganlynol yn y llys:
“Mae'r clwb rygbi wedi colli aelod ffyddlon, mae'r eglwys wedi colli trysorydd, mae'r ysgol wedi colli unigolyn a oedd yn dysgu'r plant i ddarllen ac ysgrifennu. Mae ei wyrion a'i or-wyrion wedi colli tad-cu roeddent yn ei garu'n fawr, ac rydw i wedi colli tad oherwydd un unigolyn hunanol a yrrodd yn feddw heb feddwl am ei phlentyn ei hun nac unrhyw un a ddaeth ar ei thraws ar y Noswyl Nadolig honno.
"Roedd ein tad-cu yn un o'r bobl mwyaf anhunanol, yn helpu eraill ac yn adnabyddus iawn ym Merthyr. Gwnaeth y wraig hon ddwyn y dyn hwn o'r dref."
Plediodd Mahoney, o'r Gurnos, yn euog am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus mewn cyflwr anaddas drwy yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau. Cafodd ei dedfrydu i bum mlynedd yn y carchar, a chafodd ei gwahardd rhag gyrru am saith mlynedd a hanner.