Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddoe, cafodd gwasanaeth blynyddol Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu ei gynnal yn y New Theatre yng Nghaerdydd. Yn y gwasanaeth, bu'r gwesteion yn coffáu bywydau ac yn anrhydeddu aberth holl swyddogion yr heddlu a fu farw wrth wasanaethu ledled y DU.
Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd teuluoedd a chydweithwyr sydd wedi colli anwyliaid wrth wasanaethu.
Yn unol â'r traddodiad, mae'r gwasanaeth yn cylchdroi rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig a ddoe, cawsom yr anrhydedd o'i gynnal yn ein prifddinas.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan:
“Mae'n anrhydedd mawr cael croesawu gweithwyr o bob cwr o'r wlad i Gaerdydd ar gyfer Diwrnod Coffa Cenedlaethol blynyddol yr Heddlu – cyfle i bob un ohonom gofio a thalu teyrnged.
“Mae cofio am y rhai a fu farw, a dangos ein diolchgarwch twymgalon am eu gwasanaeth, yn bwysig iawn i ni fel teulu'r heddlu, ac mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn ein helpu i wneud hynny'n union.
“Rhaid i ni beidio ag anghofio am y rhai sydd wedi gwneud yr aberth eithaf wrth wasanaethu, ac ni wnawn hynny.”