Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Luke Higgins, 40 oed, ei anafu'n ddifrifol a'i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle y bu farw ddydd Sadwrn (16 Medi).
Mae dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad yn Butetown, Caerdydd, yr wythnos diwethaf.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad am ymosodiad difrifol ar Stryd Hansen tua 4.30am ddydd Iau, 14 Medi.
Cafodd Luke Higgins, 40 oed, o Stryd Tyndall, ei anafu'n ddifrifol a'i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle y bu farw ddydd Sadwrn (16 Medi).
Mae ei deulu wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol:
“Mae marwolaeth Luke, a oedd yn dad i bedwar ac yn un o naw o blant, wedi bod yn ergyd drom i ni.
“Roedd Luke yn dad, brawd ac ewythr hoffus, a byddwn yn ei golli'n fawr.”
Cyn marwolaeth Mr Higgins, cafodd David Smith, 43 oed, o Stryd Hansen, ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol ddydd Gwener, 15 Medi ac ymddangosodd yn y llys ddydd Sadwrn.
Yn dilyn ei farwolaeth, mae Tîm Ymchwiliadau Mawr Heddlu De Cymru bellach yn cydweithio â Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae Smith yn cael ei gadw yn y ddalfa a disgwylir iddo ymddangos nesaf gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, 16 Hydref.
Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol yn parhau i gefnogi a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Mr Higgins.