Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Efallai eich bod yn ein cofio'n cyflwyno pedwar ci bach yn ôl ym mis Tachwedd 2021 – Holly, Jasper, Otto a Scout. Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach a hoffem ddangos i chi sut maen nhw'n dod ymlaen yn eu rolau fel cŵn yr heddlu.
Ymunodd y pedwar â #TîmHDC fel rhan o raglen datblygu cŵn bach at ddiben cyffredinol ac fel cŵn chwilio arbenigol. Mewn rhaglenni blaenorol, byddai cŵn bach yn treulio eu 18 mis cyntaf gydag aelodau o'r cyhoedd cyn i swyddog ddechrau eu hyfforddi ac, yn anffodus, nid oedd pob un yn llwyddiannus yn yr asesiadau.
Ond, am y tro cyntaf, cafodd y cŵn bach eu rhoi i aelodau o'r adran gŵn ar ôl 12 wythnos, ac o ganlyniad, gwelsom raddfa lwyddo o 100%.
Cŵn Alsasaidd yw Jasper ac Otto. Daethant yn gŵn diben cyffredinol wedi'u trwyddedu'n llawn ym mis Mai 2023. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu hyfforddi i helpu i chwilio am bobl sydd ar goll, dod o hyd i eiddo a waredwyd, rhoi cymorth trefn gyhoeddus, ac olrhain a dal unigolion dan amheuaeth.
Llamgi yw Holly, a daeth yn gi chwilio arbenigol wedi'i thrwyddedu'n llawn – sy'n golygu ei bod yn gallu arogli cyffuriau, arian parod a gweddillion arfau tanio – ym mis Hydref 2022. Un o'i chanlyniadau gorau hyd yma oedd dod o hyd i gyffuriau a oedd wedi'u cuddio y tu ôl i wal ffug.
Llamgi yw Scout hefyd; llwyddodd yn ei hyfforddiant chwilio arbenigol ar y cyd â Holly. Ers hynny, mae wedi dod o hyd i symiau o arian parod wrth chwilio mewn tai a cherbydau.
Dywedodd yr Arolygydd Elen Reeves:
“Roeddwn i am ailgyflwyno'r rhaglen datblygu cŵn bach i sicrhau ein bod yn gwybod am hanes llawn y cŵn, a'u galluogi i feithrin cydberthynas â'u swyddogion o oedran cynnar. Nid yn unig i greu cysylltiad cryfach rhyngddynt, ond hefyd i gyflwyno hyfforddiant sylfaenol pan oeddent yn ifanc er mwyn diwallu anghenion penodol un o gŵn yr heddlu.
“Nid yw ein cŵn yn cwblhau eu cyrsiau sylfaenol nes byddant yn 12-18 mis oed, ond cyn hyn byddant yn mynd drwy gynllun datblygu wedi'i strwythuro, gan ddechrau gyda rhaglen gymdeithasoli gynnar ac asesiadau parhaus i sicrhau'r lefel uchaf o ddatblygiad.”
Maent yn dod ymlaen yn dda ac yn gwneud yn wych, ydych chi'n cytuno?!