Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae lleidr gemwaith yng Nghaerdydd wedi'i garcharu am bum mlynedd ar ôl dwyn gwerth hyd at £50000 o emwaith.
Teithiodd Remiah Fyffe-Gayle, 29 oed, o Lundain, i Gaerdydd ar 22 Ebrill ac aeth i mewn i siop Pravins yng Nghanolfan Dewi Sant. Dechreuodd y staff ei amau ar ôl iddo ofyn am gael gweld sawl modrwy ddiemwnt, a honni eu bod ar gyfer dyweddïad oedd ar ddod.
Dangoswyd tair modrwy iddo, ac yna yn sydyn cipiodd y modrwyau a rhedeg allan. Roedd swyddog diogelwch yn sefyll wrth y drws a cheisiodd ddal Fyffe-Gayle ond brwydrodd yn ei herbyn a llwyddodd i ddianc. Gwerth cyfansymiol y modrwyon a gafodd eu dwyn oedd £53,000, ond cafodd modrwy gwerth £9,000 ei gollwng gan y lleidr. Rhedodd un o'r gwerthwyr ar ei ôl drwy Ganol y Ddinas ac i Heol Eglwys Fair cyn ei golli. Drwy ddilyn yr unigolyn, llwyddodd y swyddogion i gael gafael ar ddeunydd Teledu Cylch Cyfyng yn gyflymach er mwyn tracio'r dyn a gweld pa ffordd yr aeth.
Yn dilyn y lladrad, cyfarfu Fyffe-Gayle â dau unigolyn ar Heol y Porth a gwelwyd ef yn newid ei ddillad ar y Teledu Cylch Cyfyng cyn teithio yn ôl i Lundain mewn tacsi.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Seren West: "Roedd hwn yn ymchwiliad cyflym iawn gyda sawl heddlu yn cydweithio. O'r ymchwiliad hwn, darganfuwyd bod dau achos pellach o ladrata wedi eu cyflawni gan Fyffe-Gayle yn Nwyrain Llundain cyn iddo ymweld â Chaerdydd. Daeth gwerth cyfansymiol y modrwyon a ddygodd o'r tair siop i oddeutu £85,000.
Mae'r math hwn o drosedd yn dangos ei fod wedi cynllunio'r lladrad ymlaen llaw. Rhoddodd sawl gweithiwr o'r holl siopau gemwaith ddatganiadau a ddangosodd fod patrwm i'w droseddu, ac mae dewrder yr holl staff wedi arwain at ddedfryd o garchar am y tri lladrad."
Plediodd Fyffe-Gayle yn euog yn ddiweddarach i dri chyhuddiad o ladrad ac ymosodiad â chyllell, a chafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o bum mlynedd yn y carchar.