Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyn-gynorthwyydd addysgu ysgol gynradd, 25 oed, wedi cael ei ddedfrydu i fwy na 18 mlynedd yn y carchar am fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant ac am ymosod yn rhywiol ar blentyn o dan 13 oed.
Cafodd Tommy Lee Allington ei arestio yn ei gartref ym Mhenlan, Abertawe, ar 28 Ebrill a phlediodd yn euog i gyfanswm o 17 o gyhuddiadau yn ei wrandawiad cyn y treial yn Llys y Goron Abertawe.
Heddiw (dydd Gwener, 1 Medi), cafodd ei garcharu am 18 mlynedd ac wyth mis, gyda chwe blynedd ar drwydded, a gorchmynnwyd iddo fod ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Amanda Jenkins, a ymchwiliodd:
“Bydd troseddau o'r math hwn bob amser yn erchyll ac yn annymunol, yn enwedig pan fydd y person hwnnw yn dal swydd o ymddiriedaeth.
“Bydd hwn, yn ddi-os, yn newyddion anodd i'r gymuned leol ond gallwch fod yn sicr bod ein timau a'n partneriaid wedi diogelu a chefnogi pawb oedd yn cymryd rhan o'r ymchwiliad.
“Mae teulu'r dioddefwr wedi dangos cryfder a dewrder eithriadol drwy gydol yr achos hwn.”
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis:
“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i annog unrhyw un sy'n credu y gall fod wedi dioddef unrhyw fath o gam-drin rhywiol i roi gwybod i ni.
“Gallwch fod yn sicr y byddwn bob amser yn eich trin â'r sensitifrwydd a'r parch mwyaf.”