Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Carcharu cwpl a fanteisiodd ar ddyn agored i niwed o Gaerdydd am droseddau twyll.
Mae cwpl a dargedodd ddyn agored i niwed, gan feddiannu ei gartref a defnyddio ei arian wedi cael eu carcharu.
Plediodd Muhamet Hoxha a Somaia Bahumaid yn euog i gynllwynio i gyflawni twyll a chawsant eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (Dydd Mawrth, Medi 12).
Daeth y cwpl yn ffrindiau â'r dyn agored i niwed yn ystod y cyfyngiadau clo, gan symud i mewn i'w dŷ, cael mynediad at ei gyfrifon banc, a dechrau gwario ei arian.
Gwnaeth Hoxha, 34 oed, hyd yn oed ymholiadau ag asiant tai i werthu ei dŷ heb i'r dioddefwr wybod, ac ysgrifennodd Bahumaid, 35 oed, 'ewyllys' i'r dioddefwr, gan adael ei holl eiddo iddi hi.
Daeth eu gweithgarwch twyllodrus i'r amlwg pan ddechreuodd cymdogion bryderu o weld arwydd Ar Werth y tu allan i dŷ'r dioddefwr.
Cyflwynodd yr heddlu warant yn yr eiddo ym Mhontprennau, Caerdydd, ac arestiwyd y pâr fis Tachwedd 2022.
Gwnaethant wadu'r troseddau i ddechrau ond ym mis Gorffennaf 2023, gwnaethant bledio'n euog hanner ffordd drwy dreial.
Dywedodd swyddog yr achos, y Ditectif Gwnstabl Adam Segarty o Heddlu De Cymru: “Ni ddangosodd Bahumaid na Hoxha unrhyw edifeirwch am eu gweithredoedd.
“Roedd y dioddefwr yn amlwg yn agored i niwed a gwnaethant fanteisio ar hyn ar gyfer budd eu hunain.
“Rwy'n falch iawn ar ran y dioddefwr a oedd yn rhy nerfus i ofyn am ein cymorth yn y dechrau.
“Roedd cyfraniad aelodau o'r Tîm Plismona yn y Gymdogaeth lleol yn hanfodol wrth ei gefnogi i fynd i orsaf yr heddlu oddi wrth y rhai dan amheuaeth a datgelu'r hyn a fu'n digwydd.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi'r sicrwydd iddo ei fod wedi cael cyfiawnder.
“Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ac os bydd gan unrhyw un bryderon, byddem yn eu hannog i gysylltu â ni yn gyfrinachol.”
Dedfrydwyd Hoxha i 64 mis (5 mlynedd, 4 mis).
Dedfrydwyd Bahumaid i 60 mis (5 mlynedd).