Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd arfau eu hatafaelu a chafodd sawl person eu harestio yn dilyn pryderon am drais diweddar yn nwyrain Caerdydd.
Bu ymgyrch ar waith gan yr heddlu ers cael gwybod am ymosodiad difrifol yn Llanedeyrn yn gynharach y mis hwn.
Cafodd yr heddlu alwad i fynd i ardal Glenwood tua 2pm ddydd Sul, 17 Medi.
Cafodd dyn 19 oed o Gaerdydd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd â chlwyfau trywanu, ond cafodd bellach ei ryddhau.
Mae pum person wedi'u harestio erbyn hyn mewn perthynas â'r digwyddiad hwn. O'r pump, cyhuddwyd tri ohonynt o achosi niwed corfforol difrifol a chyflawni lladrad.
Mae tri dyn arall wedi cael eu harestio mewn perthynas â digwyddiad ar wahân ym Mhentwyn ddydd Sul, 19 Medi.
Ar yr achlysur hwn, cafodd yr heddlu wybod fod unigolion ag arfau yn difrodi cerbyd.
Cafodd dwy gyllell machete fawr "Zombie", swm sylweddol o ganabis a chwistrell CS eu hatafaelu o eiddo fel rhan o'r ymchwiliad parhaus i'r achos hwn o aflonyddu.
Dim ond un enghraifft yw'r ymgyrch hon o'r ffordd rydym yn atal y rhai hynny sy'n gysylltiedig â throseddau'n ymwneud â chyllyll, ac yn cadw'r gymuned yn ddiogel.
Er nad yw troseddau'n ymwneud â chyllyll yn rhan o fywyd beunyddiol yn Ne Cymru, mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithredu i atal problem rhag codi.
Dim ond lleiafrif o'n poblogaeth y mae troseddau'n ymwneud â chyllyll yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, gall unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud â chyllell arwain at ganlyniadau trychinebus i'r bobl dan sylw.
Ein nod, drwy ein hymgyrch #DdimYrUn, yw addysgu pobl ifanc ynghylch peryglon cario cyllell drwy roi'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i rieni, athrawon a grwpiau cymunedol wneud hyn.
https://www.nottheone.co.uk/cy/