Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r lleidr Aaron Goode wedi cael ei garcharu yn dilyn bwrgleriaeth ar Nos Galan, lle y cafodd ei gadw a'i arestio gan ddinesydd wedi iddo dorri i mewn i gartref dyn a'i ymladd.
Erfyniodd Goode, 24 oed, o Gaerdydd, ar y dioddefwr i'w ryddhau cyn i'r swyddogion gyrraedd i'w arestio.
Gwnaeth Goode a lleidr arall dargedu nifer o gartrefi ar 31 Rhagfyr, 2022. Digwyddodd y bwrgleriaeth cyntaf ar ôl iddo ef a dyn arall gael gafael ar Ford Focus tu allan i dŷ yn Llys-faen. Gwnaethant ddwyn cerdyn credyd, ac allweddi i hen gyfeiriad.
Yn yr ail gyfeiriad y gwnaethant ei fwrglera, cafodd dwy siaced gwerth £500 yr un eu cymryd, yn ogystal ag oriawr gwerth £1,000. Gwnaethant hefyd ddwyn allweddi Range Rover a mynd i mewn i hwnnw, a cheisio gyrru ymaith. Doedd Goode ddim yn llwyddiannus yn yr eiddo nesaf wedi iddo gael ei ddal a'i gadw gan berchnogion y cartref.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Dafydd Beck:
"Roedd hwn yn ymchwiliad difrifol a chymhleth a arweiniodd at ddau leidr yn cael eu cyhuddo o sawl bwrgleriaeth. Hoffwn hefyd ganmol gweithredoedd un unigolyn penodol a wynebodd ddau dresmaswr anhysbys yn ei gartref ei hun, gan lwyddo i ymaflyd yn Goode, a arweiniodd at arestio'r ddau unigolyn dan amheuaeth yn y pen draw.
"Cafodd gweithredoedd Goode a'i gyd-droseddwr ar y noson honno argraff ddifrifol ar lawer o drigolion sy'n byw yn ardal Llys-faen, Caerdydd. Roedd yn rhaid cosbi eu gweithredoedd, ac mae'r ddedfryd hon yn golygu ni allant barhau i gyflawni'r fath droseddau difrifol.
"Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn y fath unigolion sy'n credu y gallant fynd i mewn i gartrefi pobl a chymryd eu heiddo heb unrhyw ganlyniadau."
Dedfrydwyd Goode i gyfanswm o bedair blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos diwethaf.