Ym mis Awst eleni, cafodd chwe dyn eu carcharu am gyfanswm o 34 mlynedd a tri mis am droseddau'n ymwneud â chyffuriau a chaethwasiaeth fodern.
Ymgyrch Bridport oedd yr ymchwiliad ynghylch grŵp troseddau cyfundrefnol o Gasnewydd a oedd yn ecsbloetio pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghastell-nedd i werthu eu cyffuriau ar eu rhan.
Yn dilyn y dedfrydau hynny, mae tri dyn wedi cael Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu Pobl am 10 blynedd. Enwyd y dynion fel a ganlyn:
• Dwayde Stock, 28 oed, o Gasnewydd
• David Rustham Allen, 30 oed, o Gasnewydd
• Justin James Hensall, 36 oed o Gasnewydd
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Marc Gardner:
“Mae'r defnydd effeithiol hwn o ddeddfwriaeth caethwasiaeth fodern yn dangos ein hymroddiad i amddiffyn pobl agored i niwed y mae'r farchnad cyffuriau anghyfreithlon yn effeithio arnynt. Mae gormod o blant a phobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu recriwtio fel mulod cyffuriau ar gyfer delwyr cyffuriau sy'n rhan o linellau cyffuriau.
“Mae cyhoeddi'r Gorchmynion Atal Caethwasiaeth a Masnachu Pobl hyn yn cyfyngu ar allu'r tri dyn i ddefnyddio ffonau symudol, cardiau SIM a chyfrifiaduron am gyfnod llawn y gorchymyn. Ni fyddant yn gallu gyrru car gydag unrhyw un o dan 18 oed yn bresennol, heblaw am aelodau o'u teuluoedd, a bydd angen iddynt gofrestru eu cyfeiriadau, rhifau ffôn symudol a chyfrifiaduron â'r heddlu.
"Mae'r gorchmynion hyn yn hanfodol am eu bod, yn y bôn, yn atal y tri dyn hyn rhag achosi niwed i ddioddefwyr eraill.
“Mae llinellau cyffuriau yn denu ystod eang o bobl sy'n agored i niwed i'w cylch ac mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar ein cymunedau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sy'n fwy nag effeithiau'r cyffuriau niweidiol eu hunain.
“Yn yr achos hwn, nid dwyn yr unigolion o flaen eu gwell yn unig rydym wedi'i wneud, ond rydym hefyd wedi diogelu plant sy'n agored i niwed ac amddiffyn pobl eraill rhag llinellau cyffuriau.
“Rwyf am i bobl eraill sy'n rhedeg llinellau cyffuriau wybod bod Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn amgylchedd annymunol i droseddwyr cyfundrefnol weithredu ynddo.
"Byddwn yn defnyddio pob darn o ddeddfwriaeth sydd ar gael i ni i'ch collfarnu yn gyntaf ac yna yn defnyddio gorchmynion fel y rhain i atal eich gallu i ystyried cyflawni troseddau eraill ar ôl i chi gael eich rhyddhau.”