Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad ar Lôn Sgeti, Abertawe, fore dydd Gwener 22 Medi.
Cafodd Heddlu De Cymru ei alw ychydig ar ôl 8.20am gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i ymateb i adroddiad bod car Honda Jazz du ar dân.
Aeth y gwasanaethau brys i safle'r digwyddiad a chafodd dyn a dynes eu cludo i'r ysbyty gyda llosgiadau. Bu farw Helen Clarke, 77 oed, nos Sul 24 Medi yn Ysbyty Treforys. Mae ei theulu yn cael ei gefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd David Clarke, 80 oed, ei gyhuddo o lofruddiaeth. Ymddangosodd yn Llys Ynadon Abertawe bore ddoe. Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe heddiw.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes: "Rydym yn parhau i feddwl am deulu Helen ar yr adeg hynod boenus hon. Mae ditectifs yn parhau i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr eraill i ddeall yr amgylchiadau y tu ôl i'r digwyddiad hwn yn llawn."
Mae teulu Helen wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol: "Mae ein teuluoedd yn ceisio dod i delerau â marwolaeth drasig rhywun oedd yn fam, yn fam-gu, ac yn ffrind o dan amgylchiadau annodweddiadol. Rydym yn gweithio gyda'r heddlu i sicrhau bod y partïon cyfrifol yn eu llawn bwyll ac yn cael eu dwyn i gyfrif. Rydym yn gofyn am breifatrwydd i ymdopi â'r drasiedi hon fel teulu."
Mae'r ditectifs yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi bod yn ardal Lôn Sgeti rhwng 8am a 8.30am ddydd Gwener gysylltu â nhw. Maent yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â deunydd fideo dashfwrdd. Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B76-PO1 .
Fel arall, gallwch ddefnyddio un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu'r rhif digwyddiad 2300321358.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB
📧 E-bost [email protected]
📞 101