Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ci a gafodd ei adael i grwydro strydoedd Caerdydd bellach wedi ymuno ag adran gŵn Heddlu De Cymru.
Mae Sid, Belgian Malinois a gasglwyd gan Gartref Cŵn Caerdydd, wedi llwyddo yn ei asesiad ac mae bellach yn gi diben cyffredinol wedi'i drwyddedu'n llawn.
Mae adran gŵn Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos gyda Chartref Cŵn Caerdydd, ac felly pan oedd Sid ar gael i'w fabwysiadu, penderfynwyd y byddai'n ymuno â'r sefydliad dros dro i weld a fyddai'n pasio ei asesiadau.
Dywedodd yr Arolygydd Elen Reeves:
“Mae wedi bod yn bleser gweld PD Sid yn datblygu yn ei hyfforddiant ers ymuno â Heddlu De Cymru, o gi a gafodd ei adael a oedd yn crwydro strydoedd Caerdydd i fod yn aelod annwyl a gwerthfawr o #TîmHDC, ac rydym yn gobeithio y bydd yn cael gyrfa hir a hapus gyda ni yma yn yr adran gŵn.
“Rwy'n ddiolchgar dros ben am y gwaith y mae Cartref Cŵn Caerdydd yn ei wneud a'r cymorth y mae'n ei roi i ni. Mae Sid yn enghraifft ardderchog o'r bartneriaeth sydd gennym.”
Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De’Ath:
“Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn gweithio'n galed i ddod o hyd i'r cartrefi newydd cywir i'r cŵn ac mae'r hyn y mae Sid wedi'i gyflawni yn dangos y gall hynny drawsnewid bywyd ci strae, dieisiau er gwell.
"Mae cydberthynas waith ardderchog rhwng y Cartref a'n cydweithwyr yn Heddlu De Cymru ac mae pob un ohonom wrth ein bodd bod Sid bellach yn gweithio ac yn mwynhau bywyd newydd gyda'i swyddog, Andrew.”
Os ydych chi'n meddwl y gallech gynnig cartref am byth i un o'r cŵn sydd yng ngofal Cartref Cŵn Caerdydd ar hyn o bryd, ewch i'r gwefan.
Bydd PD Sid yn gweithio ochr yn ochr â'i swyddog Andrew Goodall i helpu i gadw de Cymru yn ddiogel – a dyna ddiwedd hapus i'n stori!