Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Sadwrn, 9 Medi 2023, byddai Robert Williams wedi bod yn dathlu ei benblwydd yn 36 oed, ac mae Heddlu De Cymru yn adnewyddu ein hapêl am wybodaeth.
Roedd Robert yn 15 oed pan aeth ar goll o'i gartref yn Resolfen, Castell-nedd, ar 22 Mawrth 2002. Er gwaethaf ymholiadau niferus a sawl apêl am wybodaeth dros yr 21 mlynedd diwethaf, nid yw swyddogion wedi gallu dod o hyd iddo.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dai Butt:
“Bydd pob achos person coll sydd heb ei ddatrys yn aros ar agor a byddwn yn ailedrych ar achosion o'r fath o bryd i'w gilydd rhag ofn y bydd tystiolaeth newydd yn dod i'r amlwg. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarganfod beth ddigwyddodd i Robert.
“Credaf fod gan gymuned leol Aberdulais wybodaeth allweddol a allai ein helpu i ddeall beth ddigwyddodd iddo.
"Rydym yn gwybod bod Robert wedi bod mewn parti mewn tŷ yn Nhair Felin, Aberdulais ddydd Sadwrn 23 Mawrth 2002, ble roedd pobl leol eraill yn bresennol.
"Os oeddech chi yn y parti neu os oes gennych unrhyw wybodaeth am symudiadau neu ddiflaniad Robert, hoffem siarad â chi. Efallai ei fod yn heriol cofio manylion 21 mlynedd yn ôl, ond ni waeth pa mor fach neu ddibwys rydych chi'n meddwl yw'r wybodaeth sydd gennych, gallai fod yn hanfodol i'n hymchwiliad a helpu i roi ateb i deulu Robert o'r diwedd.
“Mae'r holl amser hyn heb atebion wedi bod yn artaith iddynt – os oes gennych wybodaeth, nid yw'n rhy hwyr ar ôl yr holl amser i gysylltu â ni.”
Ychwanegodd Cheryl, mam Robert:
"Rwy'n gwybod na ddaw Robert fyth adref. 'Dw i jest eisiau ei gorff yn ôl fel bod modd i mi ei gladdu. Mae e'n haeddu hynny. Dydw i ddim eisiau iddo fod allan yno ar ben ei hun ac mae angen clo arnom fel teulu.
"Mae rhywun allan yno'n gwybod beth ddigwyddodd iddo. Fel mam, mae gwybod bod fy mhlentyn yn gorwedd allan yno wedi fy ninistrio yn emosiynol ac yn gorfforol. 'Dw i angen gwybod beth ddigwyddodd iddo."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r dulliau isod gan ddyfynnu'r rhif digwyddiad 2300271756.
Ewch i MIPP.police.uk a sgroliwch i lawr i'r crest Heddlu De Cymru neu copïwch y ddolen hon – https://mipp.police.uk/operation/62WH020310C96-PO1
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.*
I roi gwybodaeth yn ddienw, cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy'r ddolen hon: https://crimestoppers-uk.org/give-information/forms/pre-form