Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r unigolyn olaf dan amheuaeth mewn cysylltiad â marwolaeth Tomasz Waga yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2021 wedi cael ei arestio.
Mae Elidon Elezi o East Finchley, Llundain, wedi cael ei gyhuddo o gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol ac o dorri amodau mechnïaeth.
Ymddangosodd y gŵr 23 oed gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar 1 Mawrth ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa i ymddangos mewn gwrandawiad pellach yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener yma, 10 Mawrth).
Yn gynharach eleni, cafodd tri dyn eu carcharu fel rhan o'r ymchwiliad hwn sy'n mynd rhagddo.
Cafodd Josif Nushi a Mihal Dhana ill dwy ddedfryd o oes am lofruddiaeth. Dedfrydwyd Hysland Aliaj i 10 mlynedd yn y carchar am ddynladdiad.
Cafwyd y tri yn euog ar ôl treial yn Llys y Goron Casnewydd.
Mae teulu Tomasz wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf.
Arestiwyd pumed dyn, Artan Palluci, 31 oed, yn Llundain fis diwethaf ac mae ar remand yn aros am dreial am y troseddau o gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol ac am dorri amodau mechnïaeth.