Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar yr A48 yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd.
Daeth y gwasanaethau brys o hyd i gerbyd Volkswagen Tiguan am 12.15am fore dydd Llun 6 Mawrth ar ôl i hofrennydd yr heddlu, yr heddlu a swyddogion tân gael eu hanfon i'r lleoliad.
Cynhaliwyd y broses adnabod ffurfiol y prynhawn yma a chadarnhawyd mai'r tri pherson a fu farw yn y gwrthdrawiad oedd Rafel Jeanne, 24 oed, o Gaerdydd, Eve Smith, 21 oed, o Gasnewydd, a Darcy Ross, 21 oed o Gasnewydd.
Cafodd dau berson arall eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle maent yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol wael.
Mae ymchwiliadau yn parhau er mwyn canfod amgylchiadau'r digwyddiad, gan gynnwys pryd digwyddodd y gwrthdrawiad. Roedd y pum unigolyn yn destun ymholiadau gan Heddlu Gwent ar ôl i'r heddlu gael gwybod bod unigolyn ar goll gyda'r nos ar nos Sadwrn 4 Mawrth. Cafodd Heddlu De Cymru wybod wedi hynny bod un o'r unigolion hyn ar goll, ddydd Sul 5 Mawrth. Mae Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru wedi atgyfeirio'r achos at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Y tro diwethaf y cafodd y pum unigolyn eu gweld yn bendant oedd oriau mân bore dydd Sadwrn.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Jason Davies: “Rydym yn meddwl am deuluoedd pawb y mae'r digwyddiad trasig hwn wedi effeithio arnynt. Mae swyddogion arbenigol yn cynnal ymchwiliad i geisio darganfod beth ddigwyddodd. Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd yn cefnogi'r teuluoedd dan sylw ar adeg sy'n sicr o fod yn eithriadol o anodd iddynt.
“Er mwyn sicrhau bod trefniadau goruchwylio annibynnol ar waith, mae Heddlu De Cymru wedi cyfeirio'r mater at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, fel sy'n arferol o dan yr amgylchiadau hyn.”