Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:30 17/03/2023
Yn ôl ym mis Tachwedd 2022, gwnaethom chwilio cyfeiriad yn ardal Porth ar ôl cael gwybod am weithgarwch amheus. O ganlyniad i'r chwiliad, daethom o hyd i ffatri canabis sefydledig.
Yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd gan Uned Troseddau Cyfundrefnol Morgannwg Ganol, cysylltwyd chwe ffatri fawr â dau ddyn.
![]() |
![]() |
Yn ôl ym mis Tachwedd 2022, gwnaethom chwilio cyfeiriad yn ardal Porth ar ôl cael gwybod am weithgarwch amheus. O ganlyniad i'r chwiliad, daethom o hyd i ffatri canabis sefydledig.
Yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd gan Uned Troseddau Cyfundrefnol Morgannwg Ganol, cysylltwyd chwe ffatri fawr â dau ddyn.
Daethpwyd o hyd i gyfanswm o 1,165 o blanhigion wedi tyfu a 115 o blanhigion ifanc gyda gwerth stryd amcangyfrifedig o hyd at £590,000.
Cafodd Carter ei ddedfrydu i bum mlynedd a thri mis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi a chynhyrchu canabis ac am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A – crac cocên.
Cafodd Williams ei ddedfrydu i bedair blynedd a chwe mis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi a chynhyrchu canabis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Chelsea Barrett, a arweiniodd yr achos:
“Gwyddom fod llawer o bobl yn meddwl mai ‘dim ond ychydig o ganabis’ yw e ond mae cynhyrchu unrhyw gyffur yn gysylltiedig â gweithrediadau pellach. Yn aml bydd y gweithrediadau pellach hyn yn cael eu rhedeg gan gan gangiau troseddau cyfundrefnol, sy'n debygol o fod yn rhan o weithredoedd masnachu mewn pobl a thrais difrifol iawn gydag arfau.
“Byddwn yn annog pobl i barhau i roi gwybod i ni am unrhyw ymddygiad amheus ac achosion posibl o ddelio cyffuriau yn eu cymdogaeth, am fod y wybodaeth yn ein helpu i ddatblygu darlun mwy sy'n golygu y gallwn weithredu a thynnu cyffuriau oddi ar y strydoedd.”
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni. Fel arall, gallwch gysylltu ag @Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.