Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn anffodus, rydym yn parhau i dderbyn adroddiadau bod twyllwyr creulon yn ceisio perswadio pobl i drosglwyddo arian parod iddynt drwy esgus eu bod yn ffonio o'u banc, yr heddlu neu Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
Mae un o'n hadroddiadau diweddaraf yn ymwneud â menyw yn ei 80au – ond gall unrhyw un gael ei dargedu.
Fel arfer, bydd troseddwr yn eich ffonio ac yn ceisio eich perswadio i godi symiau mawr o arian parod o'ch cyfrif – ac yna ei drosglwyddo i gludwr sydd hefyd yn rhan o'r twyll.
Er y gall y bobl hyn swnio'n llawn argyhoeddiad ar y ffôn, cofiwch na fydd yr heddlu, eich banc na Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi BYTH yn gofyn i chi godi arian am unrhyw reswm a'i anfon atynt drwy gludwr, tacsi neu unrhyw ffordd arall.
Ni fyddant BYTH yn gofyn am fanylion eich cyfrif banc na'ch PIN. Ac ni fyddant BYTH yn gofyn i chi drosglwyddo arian i gyfrif diogel am resymau twyll.
Os ydych chi wedi cael galwad annisgwyl, byddwch yn amheus. Os nad ydych yn siŵr os yw rhywun ar y ffôn sy'n honni ei fod yn ffonio o'ch banc neu'r heddlu yn dweud y gwir, rhowch y ffôn i lawr.
Gallwch ffonio eich banc neu'r heddlu yn ôl ar rif hysbys i ddilysu eu manylion, ond arhoswch am ychydig (neu defnyddiwch ffôn gwahanol), oherwydd gall twyllwyr gadw'r llinell ar agor.
Hyd yn oed os bydd rhywun yn gwybod rhai manylion sylfaenol amdanoch, nid yw hynny yn golygu nad yw'n dwyllwr. Mae twyllwyr yn aml yn defnyddio gwybodaeth bersonol i feithrin ymddiriedaeth a chredadwyedd.
Dysgwch fwy am dwyll, y mathau niferus sy’n bodoli a sut gallwch ei riportio.