Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae chwech o bobl wedi’u harestio a 100 o lapiadau o gyffuriau Dosbarth-A wedi’u hatafaelu gan yr heddlu yn Adamsdown.
Mae'r arestiadau yn rhan o ymgyrch barhaus i dargedu troseddwyr sy'n defnyddio parciau yn y rhan hon o Gaerdydd fel lleoliad i werthu cyffuriau.
Dywedodd y Rhingyll Frankie Baker:
“Chwilio am droseddwyr, a dod o hyd iddynt, yw’r hyn rydym yn ei wneud bob dydd, ond mae ymgyrch bwrpasol fel hon yn ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion.
“Mae’r ymgyrch wedi cynnwys y Tîm Cymdogaeth yn gweithio gyda chydweithwyr yng Ngwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu, yr uned gŵn, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, a’r tîm beiciau oddi ar y ffordd.
“Rydym wedi ymrwymo i arestio delwyr cyffuriau a chadw parciau lleol yn ddiogel ac yn gyfeillgar i deuluoedd.”
Ymhlith y rhai a gafodd eu harestio yn ddiweddar roedd dyn 18 oed o Butetown, y daethpwyd o hyd i 57 o lapiadau o Crac Cocên ac 16 o lapiadau o Heroin ym Mharc Anderson yn ei feddiant.
Cafodd ei gadw gan swyddogion mewn dillad plaen gyda chymorth cydweithwyr o Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu yn hofrennydd yr heddlu.
Dywedodd y Cynghorydd Owen Jones o Adamsdown:
“Yn wir ddiolchgar am y gwaith y mae Heddlu De Cymru yn ei wneud yn y maes hwn. Ni ddylai neb deimlo'n anniogel yn eu parciau lleol, ond yn anffodus mae ein cymuned yn cael ei difetha gan nifer bach o bobl hunanol sy'n meddwl y gallant ddianc rhag unrhyw beth.
“Mae’r heddlu’n ymateb, sy’n wych, ond fel bob amser, rwy’n annog trigolion i barhau i roi gwybod am unrhyw droseddau y maent yn eu gweld. Po fwyaf o wybodaeth sydd gan yr awdurdodau, y gorau y gallant weithredu.”
Cysylltwch â ni drwy un o’r ffyrdd canlynol:
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.