Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
#DdimYrUn | Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni lansio ein hymgyrch #DdimYrUn, gan weithio ar y cyd â’r Uned Atal Trais, i addysgu pobl ifanc am realiti cario arf.
Mae’r ymgyrch yn amlygu peryglon a chanlyniadau troseddau cyllyll trwy straeon bywyd go iawn ac adnoddau addysgol, i helpu aelodau’r gymuned, rhieni, a phobl ifanc i addysgu eu hunain am yr effaith y gall troseddau cyllyll ei chael, yn ogystal â beth i’w wneud os ydynt, neu rywun maen nhw'n ei nabod, yn cael trafferth.
Ers ei lansio, mae'r ymgyrch ynghyd ag ymdrechion gan swyddogion a thimau arbenigol ar draws De Cymru, wedi gweld gostyngiad o 12% mewn troseddau cyllyll yn ein cymunedau.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Esyr Jones, Arweinydd yr Heddlu ar gyfer Trais Difrifol, “Mae pob arf sy’n cael ei gymryd oddi ar y strydoedd yn gam bach tuag at lwyddiant, ond y nod ehangach yw atal yr arfau hynny rhag cael eu codi yn y lle cyntaf. Mae’r gostyngiad hwn mewn troseddau cyllyll yn gam i’r cyfeiriad cywir ond fel bob amser, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i leihau hyn ymhellach.”
Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gweld dros 13,500 amweliadau â'r wefan a 1,000 o bobl wedi lawrlwytho ein pecyn adnoddau addysgol, gan gynnwys:
Mae ein cymunedau wedi chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i gyflwyno’r ymgyrch hon, gyda phartneriaid, lleoliadau addysgol a fforymau ieuenctid i gyd yn cyflwyno eu sesiynau eu hunain.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jason Herbert, o'r Uned Atal Trais, “Mae cadw ein pobl ifanc yn ddiogel a rhoi’r dechrau gorau posibl iddynt yn hollbwysig. Gall troseddau sy'n ymwneud â chyllyll effeithio ar unrhyw un, ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae drwy addysgu, atal a mynd i'r afael â'r broblem yn ein cymunedau. I bawb sydd wedi bod yn cyflwyno sesiynau, rydym yn diolch i chi ac yn eich annog i barhau â’r gwaith da, mae wir yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n hymdrechion i leihau troseddau cyllyll.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ac i lawrlwytho ein deunydd i'ch sesiynau eich hun, ewch i: www.nottheone.co.uk/cy/