Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ail ddyn wedi'i arestio mewn cysylltiad â'r gwrthdrawiad yn ardal Ffordd y Gogledd yn Cathays, Caerdydd, ar (ddydd Mawrth, 28 Mawrth)
Cafodd gyrrwr cerbyd dosbarthu 54 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol wael.
Mae dyn 31 oed o Lanrhymni wedi'i ei arestio ac mae yn y ddalfa.
Nid oes camau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn dyn 39 oed o Grangetown a gafodd ei arestio nos Fawrth, ac mae wedi'i ryddhau heb ei gyhuddo.
Mae aelodau teulu'r dioddefwr wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau, ac maent yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
“Mae'r arestiad diweddaraf yn ddatblygiad pwysig yn yr ymchwiliad, a hoffem ddiolch unwaith eto i'r rheini sydd wedi cysylltu â ni gyda gwybodaeth hanfodol," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell.
“Mae ditectifs yn parhau i holi tystion, cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ ac archwilio deunydd teledu cylch cyfyng yn yr ardal.
“Rydym yn dal i fod yn awyddus i glywed gan unrhyw un nad yw wedi cysylltu â ni eto ond a oedd yn ardal Laytonia Avenue a Ffordd y Gogledd rhwng 12.45pm a 12.50pm ddydd Mawrth, yn enwedig y rheini a oedd yn bresennol pan ddaeth y fan i stop gyda'r dioddefwr yn sownd oddi tani, a phan redodd yr unigolyn dan amheuaeth i ffwrdd.
“Mae aelodau teulu'r dioddefwr wedi'u llorio gan yr hyn sydd wedi digwydd ac yn parhau i gael eu cefnogi wrth iddynt aros wrth erchwyn ei wely.”
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300099389.
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.