Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar yr A48 yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd.
Daeth y gwasanaethau brys o hyd i gerbyd Volkswagen Tiguan am 12.15am fore dydd Llun 6 Mawrth ar ôl i hofrennydd yr heddlu, yr heddlu a swyddogion tân gael eu hanfon i'r lleoliad.
Mae teuluoedd Rafel Jeanne, Darcy Ross ac Eve Smith, a fu farw yn y gwrthdrawiad, yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol.
Mae dau unigolyn arall yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Yn dilyn ymchwiliadau cychwynnol yr heddlu i'r gwrthdrawiad, gallwn gadarnhau'r canlynol:
Y tro diwethaf y cafodd y pum unigolyn eu gweld yn bendant oedd 2am fore dydd Sadwrn 4 Mawrth ym Mhentwyn.
Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ystod oriau mân y bore ddydd Sadwrn 4 Mawrth, bydd yr union amser yn cael ei gadarnhau gan yr ymchwiliad, a fydd yn cynnwys ymholiadau teledu cylch cyfyng a system adnabod rhifau ceir yn awtomatig.
Cafodd Heddlu Gwent yr adroddiad unigolyn coll cyntaf am 7.34pm nos Sadwrn 4 Mawrth.
Cafodd Heddlu Gwent adroddiadau eraill bod unigolion ar goll am 7.43pm a 9.32pm nos Sadwrn 4 Mawrth.
Cafodd adroddiad unigolyn coll arall ei gyflwyno i Heddlu De Cymru am 5.37pm nos Sul 5 Mawrth.
Am 11.50pm nos Sul 5 Mawrth, gofynnwyd i hofrennydd yr heddlu chwilio ardal o Gaerdydd ac yn sgil hynny, daethpwyd o hyd i gerbyd mewn ardal goediog oddi ar yr A48.
Gwelodd swyddogion Heddlu Gwent, oedd ar droed, y car (Volkswagen Tiguan) am 12:02am fore dydd Llun 6 Mawrth ac arweiniodd hyn at Heddlu De Cymru yn creu cofnod am 12:15am.
Ar hyn o bryd, rydym o'r farn mai dim ond un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Mark Hoborough: “Mae hon yn sefyllfa drist dros ben ac rydym yn meddwl am deuluoedd a ffrindiau pob un o'r bobl ifanc dan sylw. Byddwn yn parhau i gefnogi'r ymchwiliad a gofynnwn i aelodau'r cyhoedd ymatal rhag dyfalu beth ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwn.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jason Davies o Heddlu De Cymru: “Rydym yn dal i feddwl am y teuluoedd a phawb y mae'r digwyddiad trasig hwn wedi effeithio arnynt. Mae swyddogion arbenigol yn cynnal ymchwiliad manwl i geisio darganfod beth ddigwyddodd. Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd yn cefnogi'r teuluoedd dan sylw ar adeg sy'n sicr o fod yn eithriadol o anodd iddynt.”
Mae Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru wedi cyfeirio'r mater at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, fel sy'n arferol o dan yr amgylchiadau hyn.