Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cadw canol dinas Caerdydd yn ddiogel ac yn groesawgar oedd nodau ymgyrch ddiweddar gan yr heddlu a arweiniodd at arestio 31 o bobl.
Cafodd y rhai dan amheuaeth eu harestio am droseddau yn cynnwys delio cyffuriau, lladrad, a methu ag ymddangos gerbron y llys yn ystod yr ymgyrch a barodd mis.
Enghreifftiau o'r arestiadau:
Dywedodd y Rhingyll Gareth Davies:“Chwilio am droseddwyr, a dod o hyd iddynt, yw’r hyn rydym yn ei wneud bob dydd, ond mae ymgyrch bwrpasol fel hon yn ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion.
“Rydym yn ymwybodol o bryderon am ddelio cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig yng nghanol y ddinas, a gobeithiwn y bydd yr ymgyrch hon yn rhoi tawelwch meddwl i'r cyhoedd.
“Mae'r swyddogion ymateb a’r Tîm Plismona yn y Gymdogaeth wedi bod yn cydweithio i greu amgylchedd gelyniaethus i’r rhai sy’n meddwl ei bod yn iawn dod i ganol y ddinas i ddelio cyffuriau, dwyn a chyflawni troseddau eraill.
“Rydym yn gweithio’n galed i gadw canol dinas Caerdydd yn lle diogel a chroesawgar.”
Yn ogystal ag arestio'r bobl dan amheuaeth, gweithiodd swyddogion yn ddyddiol gyda phartneriaid a'r gymuned fusnes i'w gwneud yn ymwybodol o'r ymgyrch a'u hannog i roi gwybod am ddigwyddiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:“Mae’n amlwg bod cael swyddogion ar lawr gwlad yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Yr hyn rydym yn sylwi arno yw llai o droseddwyr cyson. Yn syml, nid yw’r un bobl yr oeddem yn arfer delio â nhw o ddydd i ddydd ar hyd y lle, ac mae hyn yn helpu i wneud canol y ddinas yn amgylchedd diogel a chroesawgar.”