Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:51 24/03/2023
Rydym yn parhau i apelio am wybodaeth am Martin Clatworthy, nad oes neb wedi ei weld ers dydd Mawrth, 7 Mawrth.
Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro Tony Watts:
“Ers i ni gael gwybod bod Martin ar goll, rydym yn parhau i ddilyn pob llinell ymholi; ar hyn o bryd rydym yn chwilio mynyddoedd, coetir a dyfrffyrdd lleol dan arweiniad un o gynghorwyr chwilio arbenigol yr heddlu, ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda theulu Martin.
“Rydym wedi cynnal archwiliad trylwyr o’r deunydd teledu cylch cyfyng sydd ar gael yn yr ardal lle gwelwyd Martin ddiwethaf, ac rydym yn rhyddhau llun o’r tro diwethaf y gwyddys iddo gael ei weld, ym Mlaenrhondda.
“Rydym ni, a theulu Martin, yn pryderu'n fawr am les Martin, ac rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a allai ein helpu i ddod o hyd iddo, i gysylltu â ni ar frys.”
Cafodd Martin Clatworthy, 57, ei weld ddiwethaf yn ardal #Blaenrhondda am 10.55am ar 7 Mawrth.
Mae'n tua 5 troedfedd 7” o daldra, ac mae ganddo lygaid brown a gwallt byr, tywyll. Cafodd ei weld ddiwethaf yn gwisgo jîns du a chnu du.
Gofynnir i unrhyw un a allai fod wedi gweld Martin, neu sydd â gwybodaeth a fydd yn ein helpu i ddod o hyd iddo, gysylltu â ni gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300075324.