Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:26 14/03/2023
Gellir bellach enwi'r dyn a fu farw yn dilyn ffrwydrad mewn tŷ ar Clydach Road, Treforys, fel Brian Davies, 68 oed.
Cafodd ei adnabod yn ffurfiol y prynhawn yma ac mae ei deulu yn cael cefnogaeth gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Digwyddodd y ffrwydrad tua 11.20am bore ddoe, ddydd Llun 13 Mawrth.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price:
“Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Brian ar yr adeg anodd iawn hon, ac am y rhai hynny a gafodd eu hanafu yn dilyn y ffrwydrad.
“Mae ein hymholiadau yn mynd rhagddynt er mwyn cadarnhau beth achosodd y digwyddiad, ac mae'r ymholiadau hyn yn cael eu cynnal mewn partneriaeth â'r asiantaethau perthnasol, gan gynnwys yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
“Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth trigolion lleol ar Clydach Road, a'r gymuned ehangach yn Nhreforys, yn fawr wrth i ni barhau â'r gwaith hwn.”