Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:23 13/03/2023
Mae'r gwasanaethau brys yn parhau i weithio ar safle ffrwydrad ar Clydach Road yn Nhreforys a ddigwyddodd tua 11.20am y bore yma.
Mae tri unigolyn wedi cael eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans. Nid ydym wedi llwyddo i ddod o hyd i un unigolyn, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i'w ganfod.
Mae dau eiddo wedi'u difrodi'n ddifrifol ac mae sawl eiddo cyfagos arall wedi'i ddifrodi hefyd.
Mae'r awdurdod lleol wedi creu canolfan orffwys i gefnogi'r rhai y mae'r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt. Mae'r digwyddiad yn parhau i fynd rhagddo, a chaiff rhagor o fanylion eu darparu pan fydd gennym ddarlun cliriach.
Mae lleoliad y digwyddiad wedi'i ynysu o hyd a gofynnir i bobl osgoi'r ardal tra bo'r digwyddiad yn mynd rhagddo. Mae Clydach Road ar gau o hyd, ac mae'r traffig yn cael ei ddargyfeirio.
Rydym yn meddwl am bawb y mae digwyddiad heddiw wedi effeithio arnynt a hoffem ddiolch i aelodau'r gymuned am eu cefnogaeth wrth i ni barhau i ymdrin â'r digwyddiad hwn.