Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar yr A48 yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd.
Mae teuluoedd Rafel Jeanne, Darcy Ross ac Eve Smith, a fu farw yn y gwrthdrawiad, yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol. Mae archwiliadau post mortem yn mynd rhagddynt. Mae dau unigolyn arall yn Ysbyty Athrofaol Cymru o hyd.
Yn dilyn ymholiadau helaeth, sy'n cynnwys astudio deunydd teledu cylch cyfyng a chamerâu adnabod rhifau ceir yn yr ardal, cadarnhawyd mai amser y gwrthdrawiad oedd 2.03am ddydd Sadwrn, 4 Mawrth.
Aeth y cerbyd Volkswagen Tiguan gwyn oddi ar y ffordd gerbydau i mewn i ardal goediog.
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad bellach yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal neu a oedd yn teithio i'r dwyrain ar hyd yr A48 Eastern Avenue, rhwng Caerdydd a ffordd ymadael Llaneirwg sy'n cysylltu â chylchfan yr A48, y B4487 a Cypress Drive (ger Canolfan Arddio Blooms) a allai fod â deunydd fideo camera dashfwrdd o'r cyfnod hwn i gysylltu â ni.
Maent hefyd am siarad ag unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal hon ac a all fod wedi gweld y Volkswagen Tiguan.
Mae'r apêl ar gyfer tystion a all fod wedi gweld y cerbyd, ac nid oes unrhyw awgrym bod cerbyd arall wedi bod yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Jason Davies: “Mae cynnydd da wedi bod yn yr ymchwiliad o ran casglu'r digwyddiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad. Bydd swyddogion arbenigol yn parhau i gynnal ymchwiliad manwl a fydd yn ein galluogi i ddarparu'r ffeithiau am yr hyn ddigwyddodd yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn.
“Rydym yn parhau i feddwl am y teuluoedd a phawb y mae'r digwyddiad trasig hwn wedi effeithio arnynt. Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd yn cefnogi'r teuluoedd dan sylw ar adeg sy'n sicr o fod yn eithriadol o anodd iddynt.”
Os gallwch helpu, cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o’r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300072969:
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111 i roi gwybodaeth yn ddienw.
Diwedd