Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Harvey Kristian Blyth, 20 oed, o Gorseinon, wedi cael dedfryd estynedig o 10 mlynedd - saith mlynedd a thair ar drwydded - am droseddau megis:
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Evans:
“Bu dewrder y ddioddefwraig yn anhygoel o'r dechrau i'r diwedd. Hoffwn ddiolch i'r ddioddefwraig am y cryfder a'r dewrder a ddangosodd drwy'r ymchwiliad yn y gobaith y bydd hyn yn darparu rhyw fath o gysur er mwyn iddi allu ailgydio yn ei bywyd.
“Mae Harvey Blyth yn unigolyn peryglus sy'n llawn haeddu'r ddedfryd a roddwyd iddo.
“Mae'r achos hwn yn dangos pa mor ddifrifol y mae Heddlu De Cymru yn delio ag adroddiadau o ymosodiadau rhywiol, sy'n cynnwys rhai a gyflawnir yn erbyn menywod a merched.
"Byddwn yn eich credu chi; byddwn yn eich cefnogi chi ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â'r troseddwr o flaen ei well.”
Os ydych chi wedi dioddef ymosodiad rhywiol, gallwch ofyn i Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) arbenigol am help, cyngor a chymorth. Maent wedi'u lleoli ar hyd a lled Cymru ac mae ganddynt feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth wedi'u hyfforddi'n arbennig i ofalu amdanoch.
Mynnwch ragor o wybodaeth am SARCS a chymorth arall sydd ar gael.