Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 36 oed wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am leiafswm cyfnod o 20 mlynedd a 10 mis am lofruddio ei wraig yn eu cartref ym Mhlas-marl y llynedd.
Ychydig cyn 6am fore Sadwrn 22 Hydref 2022, cafodd Heddlu De Cymru alwad gan Daniel White a oedd yn honni iddo ladd ei wraig yn eu cartref yn Nheras Idris drwy ei thagu a'i thrywanu.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell:
“Er iddynt gael eu llorio gan y newyddion fod Angie wedi cael ei llofruddio, mae ei theulu wedi dangos amynedd ac urddas aruthrol yn ystod yr hyn a fu'n gyfnod arteithiol wrth aros am y ddedfryd heddiw. Er fy mod yn deall na all unrhyw beth fyth ddod ag Angie yn ei hôl, rwy'n gobeithio ein bod wedi gallu ateb sawl un o'r cwestiynau a oedd ganddynt; a bod y ddedfryd hon o help iddynt i alaru a, gobeithio, i ddechrau ailadeiladu eu bywydau.
“Gwn fod y teulu yn hynod ddiolchgar am yr help a'r gefnogaeth a dderbyniwyd gan bawb a fu'n ymwneud â'r achos hwn, yn enwedig yr holl dystion a ddarparodd wybodaeth a thystiolaeth allweddol i helpu achos yr erlyniad. Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r tystion hynny, yr oedd rhai ohonynt yn hynod ddewr, a wnaeth ddarparu tystiolaeth i fy nhîm o'u profiadau o dan law Daniel White.”
Mae mynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ers tro, ac rydym yn cydnabod bod mwy o bryder nag erioed ynghylch diogelwch personol a thrais. Rydym yn cydnabod y gall unrhyw un fod yn ddioddefwr a byddwn yn ymateb i bob dioddefwr sy'n rhoi gwybod am ddigwyddiadau i ni.
Mae teulu Angie wedi talu'r deyrnged ganlynol iddi:
“Roedd Angie yn ferch, chwaer, mam, mam-gu a modryb annwyl iawn. Roedd hi hefyd yn ffrind gydag awch am hwyl, a bob amser yn barod i wneud unrhyw beth y gallai ei wneud i bawb. Pan fu farw Angie, roedd hi ar fin cwblhau ei gradd yn y Dyniaethau - gradd a fyddai wedi ei galluogi i barhau i helpu eraill.
“Ni all unrhyw beth ddod ag Angie yn ei hôl. Byddwn yn gweld eisiau ei chwerthiniad gwirion am byth.
“Hoffem ddiolch i'r teulu, ffrindiau, y cyhoedd a Heddlu De Cymru am yr holl gymorth a roddwyd i ni drwy'r cyfnod hynod heriol hwn.
“Cyfaddefodd Daniel White ei fod yn euog, ond aeth yn ei flaen i ddefnyddio ei ymddygiad ystrywgar i arafu'r canlyniad: honiadau o amgylchiadau arbennig, achosion o absenoldeb o'r llys ac ymddangosiadau fideo. Hyd yn oed heddiw, wrth gael ei ddedfrydu, gwnaeth yn fwriadol beidio bod yn bresennol wrth iddo yn amlwg i ni barhau i geisio rheoli'r sefyllfa hon a'i llwfrdra wrth iddo osgoi ein hwynebu ni ac wynebu cyfiawnder am yr hyn a wnaeth i Angie. Rydym yn ddiolchgar am yr achos cadarn a chynhwysfawr a gyflwynwyd gan dditectifs Heddlu De Cymru a arweiniodd ato'n wynebu ei gosb yn llawn. Hoffem ddiolch i'r tîm ymchwilio am eu holl ymdrechion.
“Er ein bod yn deall ei fod wedi derbyn y ddedfryd hiraf bosibl yn ôl y gyfraith, ni all hyn fyth fod yn ddigon i ni. Byddem yn croesawu cynnal adolygiad o'r hyn a wnaeth yr awdurdodau perthnasol i fonitro Daniel White er mwyn deall a ellid bod wedi osgoi'r llofruddiaeth hon er mwyn amddiffyn eraill, o bosibl. Rydym am gael atebion ynghylch sut y gellid bod wedi rhyddhau dyn mor beryglus o'r carchar er mwyn iddo allu ymweld ag Angie a'i harteithio ac i gyflawni'r drosedd erchyll hon a aeth ag Angie oddi wrth ei theulu a'i ffrindiau.”