Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwasanaethau brys ac asiantaethau partner yn dal i fod ar safle ffrwydrad a ddigwyddodd yn Clydach Road yn Nhreforys am 11.20am ddydd Llun, 13 Mawrth.
Bu farw un dyn yn y digwyddiad ac aethpwyd â thri o unigolion eraill i'r ysbyty mewn ambiwlans. Disgwylir i'r dyn gael ei adnabod yn ffurfiol yn ddiweddarach heddiw.
Aethpwyd â dau oedolyn a phlentyn i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Treforys. Cafodd y plentyn ac un o'r oedolion eu trin a'u rhyddhau o'r ysbyty. Cafodd yr ail oedolyn ei dderbyn i'r ysbyty gydag anafiadau trawma ac mae mewn cyflwr sefydlog.
Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo i gadarnhau'r hyn a achosodd y digwyddiad. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael ei hysbysu.
Mae dau eiddo wedi'u difrodi'n ddifrifol ac mae sawl eiddo cyfagos arall wedi'i ddifrodi hefyd.
Neithiwr, roedd nifer yr aelwydydd a oedd yn methu â dychwelyd i'w cartrefi oherwydd difrod strwythurol, malurion ar y ffyrdd a phryderon ynglŷn â diogelwch y prif gyflenwad nwy, wedi lleihau o fwy na 200 i lai na 30.
Cafodd y rhai yr oedd angen llety mewn argyfwng dros nos arnynt eu cynorthwyo gan yr awdurdod lleol. Caiff archwiliadau adeiladu eu cynnal i asesu diogelwch yr eiddo er mwyn cadarnhau a yw'n ddiogel i bobl ddychwelyd i'w cartrefi. Caiff hyn ei wneud mor gyflym â phosibl a bydd pobl yn gallu dychwelyd i'w heiddo pan fydd yn ddiogel iddynt wneud hynny.
Mae Clydach Road a Field Close yn dal i fod ar gau, a cheir mynediad dan reolaeth i gartrefi yn ardal Cwm Arian.
Hoffem ddiolch i'r gymuned am ei chefnogaeth a'i chydweithrediad hyd yma ac rydym yn parhau i feddwl am bawb y mae'r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt.
Mae'r awdurdod lleol yn parhau i roi cymorth a'r wybodaeth ddiweddaraf i'r trigolion yr effeithiwyd arnynt o Neuadd Goffa Treforys.