Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad difrifol a ddigwyddodd yn ardal Ffordd y Gogledd yn Cathays, Caerdydd, yn gynharach heddiw.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i leoliad y digwyddiad am 12.49pm.
Mae un dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ac mae fan wen wedi cael ei hatafaelu i'w harchwilio.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Nid oes neb wedi cael ei arestio ac mae ymholiadau'n parhau er mwyn dod o hyd i'r unigolyn oedd yn gyrru'r cerbyd adeg y gwrthdrawiad.
Mae swyddogion yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ ac yn casglu deunydd teledu cylch cyfyng er mwyn cadarnhau union amgylchiadau'r digwyddiad.
Mae'r ffordd ar gau a chynghorir modurwyr i osgoi'r ardal.
Mae'n debygol y bydd y ffordd ar gau am gryn amser.
Cynghorir unrhyw un sy'n mynychu gêm bêl-droed Cymru heno yn Stadiwm Dinas Caerdydd i ystyried llwybrau amgen i mewn i'r ddinas.
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300099389.
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.