Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:53 09/03/2023
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiad yn Y Sblot, Caerdydd, a adawodd ddyn ag anafiadau difrifol i'w ben.
Darganfuwyd dyn, 40 oed, wedi’i anafu ar Stryd Marion tua 2.30pm ddydd Sul, 5 Mawrth.
Mae'n dal yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, mewn cyflwr difrifol ond sefydlog ar hyn o bryd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George: “Yn dilyn ymholiadau helaeth mae pum dyn 18, 19, 21, 22, a 23 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
“Mae’r dyn 23 oed yn parhau yn nalfa’r heddlu ac mae’r pedwar dyn arall ar fechnïaeth wrth aros am ymholiadau pellach.
“Gofynnir i unrhyw un a welodd y digwyddiad hwn neu sydd ag unrhyw wybodaeth neu luniau, i gysylltu â ni."
Os gallwch helpu, cysylltwch â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu'r un o'r dulliau cyfeirnod canlynol: 2300072488.
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
I ddarparu unrhyw wybodaeth yn ddienw, cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111.