Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
1. Peidiwch byth â gadael plant bach yng nghwmni ci heb neb i gadw golwg arnynt, ni waeth beth fo maint, brîd na natur y ci. Gall unrhyw gi ymddwyn mewn modd annisgwyl, ac nid yw'r canlyniadau posibl yn werth y risg.
2. Gwnewch yn siŵr fod gan eich ci rywle diogel a chyfforddus i fynd iddo pan fydd gennych ymwelwyr, gan fod y digwyddiadau hyn yn gallu bod yn ormod iddynt. Os ydych yn disgwyl eitemau yn y post neu gan gwmni dosbarthu, gwnewch yn siŵr fod eich ci allan o'r ffordd ac yn ddiogel yn rhywle arall yn y tŷ neu'r ardd. Mae nifer o ymosodiadau gan gŵn yn digwydd pan fydd rhywun yn agor y drws i dderbyn parseli. Cyn ateb y drws, rhowch eich ci mewn ystafell arall ac addysgwch eich plant i wneud yr un peth, yn enwedig os byddant gartref yn ystod gwyliau'r ysgol.
3. Ystyriwch osod cawell wrth y blwch llythyrau os yw eich ci yn dueddol o ymosod ar eich post. Os nad yw'n ymarferol i chi roi eich ci yn rhywle diogel yn ystod y dydd, ystyriwch osod blwch post y tu allan i'ch eiddo.
4. Dylai pawb sicrhau bod gan eu ci ficrosglodyn a bod y manylion arno yn gyfredol. Rhaid i'ch ci hefyd wisgo coler a thag gydag enw a chyfeiriad (gan gynnwys cod post) y perchennog wedi'u hysgythru neu eu hysgrifennu arno. Y gosb fwyaf am fethu â chydymffurfio â hyn yw £5,000.
Os ydych yn poeni am iechyd neu ymddygiad eich ci, cysylltwch â'ch milfeddyg lleol am gyngor a chymorth. Os oes gennych bryderon am ymddygiad ci nad ydych yn berchen arno, cysylltwch â'r heddlu neu rhowch wybod amdano yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.
Fel perchennog ci cyfrifol, mae rhai pethau y mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt a'u hystyried er diogelwch pawb.
Mae gadael i gi fod allan o reolaeth yn beryglus yn unrhyw le, gan gynnwys mewn man cyhoeddus, mewn man preifat, er enghraifft tŷ neu ardd cymydog ac yng nghartref neu ardd y perchennog yn erbyn y gyfraith.
Os yw eich ci allan o reolaeth mae'n bosibl y cewch eich erlyn, wynebu hyd at chwe mis yn y carchar a chael dirwy o hyd at £5000.
Os bydd eich ci yn cnoi rhywun, yn eich cartref neu'r tu allan i'ch cartref, efallai y cewch eich erlyn a'ch anfon i'r carchar am hyd at bum mlynedd am achosi anaf a hyd at chwe mis lle na chafwyd anaf.
Mae gan y llys hefyd y pŵer i orchymyn difa’r ci, eich gwahardd rhag bod yn berchennog ar gŵn neu eu cadw a’ch gorchymyn i dalu iawndal sylweddol i’r dioddefwr.
Os bydd eich ci yn cnoi neu’n anafu ci cymorth (e.e. ci tywys), gallwch gael eich anfon i’r carchar am hyd at dair blynedd neu gael dirwy.
Os bydd eich ci’n ymosod neu’n cael ei ystyried yn berygl i staff y Post Brenhinol, mae’n bosibl y bydd darpariadau i’ch cyfeiriad neu’ch ardal mewn perygl o gael eu dosbarthu wedi’u gohirio. Ym mhob achos o ymosodiadau gan gŵn ar weithwyr post, bydd y Post Brenhinol yn ceisio erlyniadau drwy'r heddlu neu, os oes angen, erlyniadau preifat.
Os ydych yn rhentu eich eiddo, gallai methu â chadw eich ci dan reolaeth olygu eich bod yn torri eich cytundeb tenantiaeth.
Rhaid i chi hysbysu'r heddlu am bob brathiad ci, ni waeth pa mor ddifrifol ydyw. Ffoniwch 999 mewn argyfwng.
Eich cyfrifoldeb chi yw eich ci. Mae diogelwch y rhai o'ch cwmpas yn dibynnu ar eich gweithredodd chi, fel perchennog.