Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymddangosodd Vincent Richards, 36, gerbron Llys y Goron Merthyr ddydd Iau (9 Mawrth) lle cafodd ei ddedfrydu am gyflenwi cyffuriau.
Ar ôl arestio unigolyn o dan amheuaeth fel rhan o ymchwiliad ar wahân, atafaelodd swyddogion ffôn a oedd yn cynnwys negeseuon a anfonwyd gan Richards a lwyddodd i'w gysylltu â gweithgarwch cyflenwi cyffuriau Dosbarth A yng Nglynrhedynog ac ardaloedd cyfagos yn y Rhondda.
Cafodd Richards, o Landochau, ei arestio gan dditectifs o Uned Troseddau Cyfundrefnol Morgannwg Ganol ar 7 Chwefror 2023. Cafodd ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa.
Cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd a chwe mis am gyflenwi cyffuriau Dosbarth A – crac cocên a chocên a chyffuriau Dosbarth B – canabis.
Mae ein swyddogion yn gweithio'n ddiflino i gadw'r ardal yn ddiogel i breswylwyr, a dim ond un enghraifft yw'r achos hwn o'r ffordd rydym yn mynd i'r afael ag achosion o ddelio cyffuriau yn y gymuned.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
Ewch i: https://bit.ly/SWPReportOnline
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101
Fel arall, gallwch gysylltu ag @Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.