Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o bryderon yng nghymuned Merthyr Tudful ynghylch ieuenctid sydd yn ymgysylltu mewn trosedd ac Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol yn yr ardal. Mae grŵp amlasiantaethol sydd y cynnwys yr heddlu, cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol ac ysgolion wedi cael ei sefydlu er mwyn ymateb i batrymau ymddygiadaol a digwyddiadau troseddol sydd yn ymwneud â ieuenctid. Bwriad y grŵp yw dynodi ac ymgysylltu’n effeithiol â’r rheini sydd yn troseddu er mwyn rhwystro rhagor o ddigwyddiadau tebyg.
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio deg unigolyn allweddol, rhwng 12 ac 17 oed ac wedi gwneud 29 o gyhuddiadau’n gysylltiedig â throseddau unigol sydd yn cynnwys lladrad a nifer o ymosodiadau a digwyddiadau gwrthgymdeithasol, lefel isel eraill. Mae’r unigolion hynny ar hyn o bryd ar fechniaeth yr heddlu ag amod i beidio â chysylltu â’i gilydd. Maent hefyd wedi eu heithrio o ardaloedd penodol o’r dref; mae’n rhaid iddynt fyw yn eu cyfeiriadau cartref ac maent yn destun gwarchae sy’n golygu na allant adael eu cartrefu rhwng amseroedd penodol. Mae methiant i gydymffurfio â’r amodau yn golygu y byddant yn cael eu harestio, ar unwaith.
Nid ydym yn goddef troseddau o’r fath ac rydym yn ymroddedig i ddynodi a gweithredu ar y cyfle cyntaf posib gan gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r problemau, beth bynnag y bônt a hynny drwy raglenni gorfodi ac ymyriadau cydnerth.
Rydym yn cydnabod fod pryderon ymysg rhai plant o oed ysgol, eu rhieni ac athrawon. Mae partneriaid diogelu yn ymweld ag ysgolion er mwyn tawelu gofidiau a manteisio ar y cyfle i’w haddysgu a’u cynorthwyo.
Mae’n bwysig ein bod yn deall mai ond nifer fechan o bobl ifanc ym Merthyr Tudful sydd y rhan o hyn. Nid yw ymddygiad yr unigolion hyn yn adlewyrchiad teg o bobl ifanc Merthyr Tudful na’r dref ei hun. Mae Merthyr Tudful yn lle diogel a bydd yn parhau i fod felly. Yr hyn sydd yn adlewyrchiad teg o Ferthyr Tudful yw’r ymateb unedig yr ydym yn ei dderbyn gan ysgolion, rhieni, sefydliadau ieuenctid a’r bobl ifanc eu hunain sydd yn cydnabod y broblem ac sydd yn cydweithio â ni er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.