Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod y gweddillion dynol y daethpwyd o hyd iddynt mewn ardal goediog y tu ôl i Waverley Drive, Mwmbwls ddydd Iau 6 Ebrill wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol fel gweddillion Russell Scozzi o West Cross, Abertawe.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies: "Mae ein hymchwiliad i ganfod gweddillion Mr Scozzi yn mynd rhagddo er mwyn i ni allu sefydlu'r amgylchiadau a arweiniodd at ei farwolaeth, ac achos ei farwolaeth.
“Cefnogodd trigolion lleol Waverley Drive y swyddogion drwy gydol yr ymchwiliad eang a pharhaus o'r lleoliad a hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth a'u hamynedd.”
“Yn dilyn archwiliad fforensig trwyadl, cadarnhawyd mai gweddillion yr unigolyn coll Russell Scozzi a welwyd diwethaf fis Mai 2002 ydynt. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'w deulu sy'n cael cymorth gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Mae ei chwaer wedi talu'r deyrnged ganlynol i Russell : “Rwy'n meddwl am blant Russell sydd wedi tyfu i fyny heb eu tad a heb wybod yn iawn beth a ddigwyddodd iddo.
“Gobeithio nawr y gallwn ni, fel teulu, ei roi i orffwys a chyda gwaith Heddlu De Cymru y gallwn ddarganfod beth a ddigwyddodd iddo.
“Roeddwn i'n caru Russell yn fawr iawn. Russell oedd fy mrawd mawr ac roeddwn i bob amser yn ei edmygu wrth i mi dyfu i fyny. Mae ei golli fel hyn wedi bod yn ofnadwy.
“O'r diwedd, cawn y cyfle i alaru'n iawn.”